The biggest annual survey of people in Wales is getting underway with the organisers seeking to interview 12,000 people to help inform important decisions on local services and government priorities.

The Newport-based Office for National Statistics (ONS) runs the National Survey for Wales on behalf of the Welsh Government and other public bodies in Wales.

In recent years, getting people to take part in official surveys has been a challenge worldwide. The National Survey managers believe that people in Wales can help break that trend, as the survey offers the public a unique opportunity to influence decisions that affect them.

The survey questions cover a range of important issues including education, health and social care, council services and leisure activities.

Dr Steve Marshall, Welsh Government’s Chief Social Research Officer, said: “The last National Survey for Wales told us that only 2 out of 10 people feel they can influence decisions affecting their local area. Through participating in the National Survey, people get to share their views and experiences on important local issues to make that happen.”

The survey results are used by the Welsh Government to understand more about the everyday lives and views of people across Wales. For example, last year the survey found that while 90% of people are satisfied with care from their GP, 38% find it difficult to make a convenient appointment. And 93% of parents are satisfied with the quality of formal childcare, but 29% find it difficult to fit that in with their working hours. These and other survey results are being used to help improve services nationally.

Survey participants are selected randomly to form a representative sample of the population. Interviews are conducted in people’s homes by experienced interviewers in either English or Welsh and take around 45 minutes to complete.

Martina Helme, the National Survey for Wales manager for ONS explained: “This isn’t just another market research exercise. This survey really matters because it gives the Welsh Government evidence it can’t get any other way. So if you are contacted by ONS for an interview, please take this valuable opportunity to make your views count!”

Helpu Cymru i wneud y penderfyniadau gorau – yr Arolwg Cenedlaethol i gyfweld â 12,000 o bobl

Mae’r arolwg blynyddol mwyaf o bobl yng Nghymru yn mynd rhagddo gyda’r trefnwyr yn ceisio cyfweld â 12,000 o bobl er mwyn helpu i lywio penderfyniadau allweddol ynghylch gwasanaethau lleol a blaenoriaethau’r llywodraeth.

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd sy’n cynnal Arolwg Cenedlaethol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cael pobl i gyfranogi mewn arolygon swyddogol wedi bod yn her ledled y byd. Mae rheolwyr yr Arolwg Cenedlaethol yn credu y gall pobl Cymru helpu i wyrdroi’r tueddiad hwnnw, gan fod yr arolwg yn cynnig cyfle unigryw i’r cyhoedd ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Mae cwestiynau’r arolwg yn cwmpasu ystod o faterion pwysig gan gynnwys addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, gwasanaethau cyngor a gweithgareddau hamdden.

Dywedodd Dr Steve Marshall, Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru: “Dangosodd yr Arolwg Cenedlaethol diwethaf mai dim ond 2 allan o bob 10 o bobl sy’n teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol. Trwy gymryd rhan yn yr Arolwg Cenedlaethol, gall pobl rannu eu barn a’u profiadau ynghylch materion lleol pwysig er mwyn gwneud i hynny ddigwydd.”

Defnyddir canlyniadau’r arolwg gan Lywodraeth Cymru er mwyn deall mwy am fywydau bob dydd a barn pobl ar draws Cymru. Er enghraifft, y llynedd dangosodd yr arolwg bod 90% o bobl yn fodlon â’r gofal a geir gan eu Meddyg Teulu, ond bod 38% yn ei chael yn anodd gwneud apwyntiad cyfleus. Ac mae 93% o rieni’n fodlon ag ansawdd gofal plant ffurfiol, ond mae 29% yn ei chael yn anodd trefnu hynny i gyd-fynd â’u horiau gwaith. Defnyddir y rhain a chanlyniadau eraill yr arolwg i helpu gwella gwasanaethau’n genedlaethol.

Dewisir unigolion i gymryd rhan yn yr arolwg ar hap er mwyn ffurfio sampl cynrychioliadol o’r boblogaeth. Cynhelir cyfweliadau yng nghartrefi pobl gan gyfwelwyr profiadol naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac maent yn cymryd oddeutu 45 munud i’w cwblhau.

Esboniodd Martina Helme, rheolwr Arolwg Cenedlaethol Cymru yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol: “Nid dim ond ymarfer ymchwil i’r farchnad arall yw hwn. Mae’r arolwg hwn yn wirioneddol bwysig oherwydd mae’n rhoi tystiolaeth i Lywodraeth Cymru na ellir ei chael mewn unrhyw ffordd arall. Felly, os bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cysylltu â chi am gyfweliad, dylech fanteisio ar y cyfle gwerthfawr hwn i wneud i’ch barn gyfrif!”

Media contacts:

Media Relations Office: +44 (0)845 6041858
Emergency on-call: +44 (0)7867 906553
E-mail: media.relations@ons.gov.uk