Skip to content

Bwletin ystadegol: Cyfrifiad 2011 – Amcangyfrifon o Boblogaeth a Chartrefi Cymru, Mawrth 2011 This product is designated as National Statistics

Dyddiad rhyddhau: 16 Gorffennaf 2012 Lawrlwytho PDF

Pwyntian allweddol

  • Ar noson y cyfrifiad roedd poblogaeth Cymru yn 3.06 miliwn, sef ei phoblogaeth fwyaf erioed.
  • Roedd 1.50 miliwn o ddynion ac 1.56 miliwn o ferched yng Nghymru.
  • Tyfodd y boblogaeth 153,000 yn y 10 mlynedd ers y cyfrifiad diwethaf, gan gynyddu o 2.9 miliwn yn 2001, sef cynnydd o 5.3 y cant. Hwn oedd y twf mwyaf yn y boblogaeth rhwng cyfrifiadau, ers 1921. Yn 1911, roedd 2.4 miliwn o bobl, felly am bob pedwar o bobl yng Nghymru yn 1911, roedd pump yn 2011.
  • Er i’r gwahaniaeth rhwng genedigaethau a marwolaethau beri cynnydd bach yn y boblogaeth, roedd cyfraddau mudo yn cyfrif am dros 90 y cant o’r cynnydd yn y boblogaeth rhwng 2001 a 2011. Mae hyn yn cynnwys mudo rhyngwladol a mudo o rannau eraill o’r DU.
  • Oedran canolrif y boblogaeth yng Nghymru oedd 41. Ar gyfer dynion, 40 oedd yr oedran canolrif ac ar gyfer merched 42 oedd yr oedran canolrif. Roedd hyn ddwy flynedd yn uwch na’r oedran canolrif o 39 ledled Cymru a Lloegr yn 2011. Yn 1911, roedd yr oedran canolrif ledled Cymru a Lloegr yn 25.
  • Roedd canran y boblogaeth yng Nghymru a oedd yn 65 oed a throsodd yr uchaf o blith unrhyw gyfrifiad sef dros 18 y cant, cyfanswm o 563,000 o bobl. Roedd hyn yn gynnydd o 57,000 o bobl yn y categori oedran hwn ers 2001, ac yn gynnydd o 450,000 ers 1911 pan roedd 113,000 o bobl 65 oed a throsodd.
  • Roedd 25,000 o breswylwyr yng Nghymru a oedd yn 90 oed a throsodd yn 2011, o gymharu â 19,000 yn 2001 a 700 yn 1911.
  • Yn 2011, roedd 178,000 o blant o dan bump oed yng Nghymru, 11,000 yn fwy nag yn 2001.
  • Yng Nghymru, roedd dwysedd cyfartalog y boblogaeth yn 148 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr, a oedd yn is nag unrhyw ranbarth yn Lloegr. Yr awdurdod unedol mwyaf poblog oedd Caerdydd, a oedd fwy na theirgwaith yn ddwysach ei boblogaeth na’r awdurdod unedol nesaf o ran dwysedd ei boblogaeth, sef Casnewydd. Mae dwysedd poblogaeth Caerdydd yn debyg i ddwysedd poblogaeth Newcastle upon Tyne yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr.
  • Roedd 1.3 miliwn o gartrefi yng Nghymru ar noson y cyfrifiad. Maint cyfartalog cartrefi oedd 2.3 o breswylwyr fesul cartref yn 2011. Yn 1911, roedd gan gartrefi yng Nghymru a Lloegr 4.3 o breswylwyr ar gyfartaledd, a oedd bron i ddwbl y cyfanswm presennol.
  • Tyfodd y boblogaeth ym mhob rhan o Gymru rhwng 2001 a 2011 heblaw am Flaenau Gwent, lle y bu dirywiad bach.
  • Yr awdurdodau unedol â’r twf canrannol mwyaf yn y boblogaeth oedd Caerdydd (12 y cant), Sir Benfro (8 y cant), a Phen-y-bont ar Ogwr (8 y cant).

Crynodeb

Mae'r bwletin hwn yn cyflwyno'r gyfres gyntaf o ystadegau o Gyfrifiad 2011. Mae'n disgrifio'r boblogaeth sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn ôl oedran a rhyw, ac mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am bynciau fel nifer y cartrefi a dwysedd poblogaeth.

Cyflwyniad

Y cyfrifiad

Mae’r cyfrifiad wedi casglu gwybodaeth am y boblogaeth bob 10 mlynedd ers 1801 (ar wahân i 1941). Cynhaliwyd y cyfrifiad diweddaraf yng Nghymru a Lloegr ar 27 Mawrth 2011.

Mae ystadegau’r cyfrifiad yn disgrifio nodweddion ardal, fel faint o ddynion a merched sydd yn y boblogaeth a’u hoedrannau. Caiff yr ystadegau eu defnyddio i ddeall yr hyn sy’n debyg ac yn wahanol o ran nodweddion poblogaeth yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae’r wybodaeth hon yn ategu’r ffordd y dyrennir biliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau fel addysg, trafnidiaeth ac iechyd. Caiff penderfyniadau eu gwneud yn feunyddiol ar sail ystadegau’r cyfrifiad. Mae’r rhain mor lleol â nifer y mannau parcio sydd eu hangen mewn archfarchnadoedd, i raglenni ehangach, er enghraifft, ble i dargedu cynlluniau hyfforddi’r llywodraeth. Mae nifer y lleoedd mewn ysgolion, tai, cartrefi gofal, neu ddatblygu systemau rheoli traffig neu ariannu awdurdodau lleol ac unedol oll yn cael eu dylanwadu gan y cyfrifiad.

Cyflawnodd Cyfrifiad 2011 ei gyfradd ymateb targed gyffredinol sef 94 y cant o’r boblogaeth sydd fel arfer yn byw yng Nghymru a Lloegr, a thros 80 y cant ym mhob awdurdod lleol ac unedol. Amcangyfrifir yr amcangyfrif o’r boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr sef 56.1 miliwn gyda lefel hyder o 95 y cant ei fod yn gywir i o fewn +/- 85,000 (0.15 y cant).

Amcangyfrifodd Cyfrifiad 2011 a gynhaliwyd gan SYG gyfanswm poblogaeth Cymru a Lloegr. Cafwyd ymateb da i Gyfrifiad 2011 ond, yn anochel, ni lwyddwyd i gynnwys rhai pobl. Mae’r broblem o ran cwmpas anghyflawn mewn cyfrifiad yn un sy’n effeithio ar gyfrifwyr ym mhobman a chynlluniodd SYG ddulliau a phrosesau i fynd i’r afael â hyn. Cynhaliwyd Arolwg Cwmpas o’r Cyfrifiad i fesur cwmpas anghyflawn mewn sampl o ardaloedd ac, yn seiliedig ar hyn a dulliau amcangyfrif manwl gywir, mae amcangyfrifon o’r boblogaeth y cyfrifiad yn cynrychioli 100 y cant o’r boblogaeth sydd fel arfer yn byw ym mhob ardal. Roedd y dulliau amcangyfrif yn destun adolygiad annibynnol gan gymheiriaid a ddaeth i’r casgliad fod y gweithdrefnau pellach ar gyfer Sicrhau Ansawdd ac addasu (ar gael yn Saesneg yn unig) yn atgyfnerthu strategaeth SYG ar gyfer amcangyfrif y boblogaeth yn llwyddiannau i raddau sylweddol.

Dilynwyd proses sicrhau ansawdd helaeth ar gyfer holl amcangyfrifon y cyfrifiad, gan ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth cenedlaethol a lleol eraill at ddibenion cymharu ac adolygu, gan gyfres o baneli sicrhau ansawdd. Caiff ystod eang o bapurau sicrhau ansawdd, gwerthuso a methodoleg eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r wybodaeth hon. 

Mae Cyfrifiad 2011 yn darparu amcangyfrif ansawdd uchel o’r boblogaeth y gall pobl ei ddefnyddio â hyder.

Ni chaiff gwybodaeth bersonol o’r cyfrifiad ei rhannu ag unrhyw adran arall o’r llywodraeth yn genedlaethol, yn rhanbarthol nac yn lleol. Cedwir y wybodaeth a gesglir yn gyfrinachol gan SYG, ac fe’i diogelir gan y gyfraith. Ni ryddheir cofnodion y cyfrifiad am 100 mlynedd.

Manylion gweithredol Cyfrifiad 2011

Yng Nghymru a Lloegr, cafodd 25.4 miliwn o holiaduron eu postio, a dosbarthodd dros 1,700 o gyfrifwyr arbennig holiaduron â llaw i leoedd fel neuaddau preswyl prifysgolion, carchardai a chartrefi gofal. Cyflogwyd tîm o 35,000 o staff i helpu pobl i lenwi a dychwelyd eu holiaduron. Hefyd, gallai ymatebwyr lenwi eu holiadur ar lein. Gallai preswylwyr yng Nghymru ddewis ymateb i’r cyfrifiad yn Gymraeg neu Saesneg.

Y gyfres gyntaf o ystadegau Cyfrifiad 2011

Caiff ystadegau o Gyfrifiad 2011 eu rhyddhau fesul cam dros y 18 mis nesaf. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cynhyrchion a’r amserlen ym mhrosbectws Cyfrifiad 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig). Mae’r bwletin hwn yn cynrychioli’r gyfres gyntaf o ystadegau Cyfrifiad 2011, ac fe’i cyhoeddir ochr yn ochr â bwletin sy’n cwmpasu canlyniadau ar gyfer Cymru a Lloegr, sef 2011 Census - Population and Household Estimates for England and Wales: March 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig).

Mae’r bwletin hwn yn crynhoi’r boblogaeth sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn ôl oedran a rhyw1.

Caiff ystadegau’r DU eu llunio a’u cyhoeddi gan SYG ar ôl i’r tair asiantaeth ystadegol gyhoeddi’r data perthnasol. Mae’r pynciau eraill a gwmpesir yn y bwletin hwn yn cynnwys nifer y cartrefi a dwysedd poblogaeth. Cyflwynir canlyniadau ar gyfer Cymru ac ar gyfer awdurdodau unedol. Rhyddheir canlyniadau ar gyfer lefelau daearyddol is yn ddiweddarach eleni.

Cyd-destun Cyfrifiad 2011

Mae’r bwletin hwn yn defnyddio gwybodaeth arall a luniwyd gan SYG, gan gynnwys data o’r amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth (ar gael yn Saesneg yn unig) yn ogystal ag ystadegau ar enedigaethau (ar gael yn Saesneg yn unig), marwolaethau (ar gael yn Saesneg yn unig) a mudo rhyngwladol (ar gael yn Saesneg yn unig). Mae hefyd yn cysylltu â delweddau data (ar gael yn Saesneg yn unig) perthnasol a luniwyd gan SYG i helpu i ddehongli’r ffigurau. Gwneir cymariaethau rhwng Cymru a Lloegr. Hefyd, defnyddir ystadegau a luniwyd gan Eurostat (ar gael yn Saesneg yn unig), yr asiantaeth ystadegol Ewropeaidd, er mwyn dangos amcangyfrifon cyfrifiad Cymru a Lloegr mewn cyd-destun Ewropeaidd.

Caiff yr ystadegau yn y gyfres hon eu defnyddio fel sail i amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth 2011. Mae’r amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth ar gyfer y boblogaeth fel yr oedd ar 30 Mehefin bob blwyddyn. Bwriedir rhyddhau amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth 2011 sy’n seiliedig ar y cyfrifiad ym mis Medi 2012. Maes o law, ailbennir sail amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth 2002-2010 gan ddefnyddio’r hyn rydym bellach yn ei wybod o Gyfrifiad 2011; cyhoeddir yr amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth ar lefel genedlaethol yr ailbennwyd ei sail erbyn diwedd 2012 a rhyddheir amcangyfrifon is-genedlaethol yn ystod gwanwyn 2013.

Nodiadau ar gyfer Cyflwyniad

  1. Mae’r boblogaeth sydd fel arfer yn byw yma yn cyfeirio at bobl sy’n byw yng Nghymru a Lloegr am 12 mis neu fwy, gan gynnwys y rhai sydd wedi bod yma am lai na 12 mis ond sy’n bwriadu aros am 12 mis neu fwy.

Poblogaeth Cymru a sut mae wedi tyfu

Yn 2011, roedd poblogaeth Cymru yn 3.06 miliwn (5.5 y cant o gyfanswm poblogaeth Cymru a Lloegr), sef ei lefel uchaf erioed. Roedd 1.50 miliwn o ddynion ac 1.56 miliwn o ferched yng Nghymru.

Ers 2001, mae poblogaeth Cymru wedi cynyddu 153,000 (5.3 y cant) ar yr amcangyfrif o 2.9 miliwn o breswylwyr, ac mae wedi cynyddu 643,000 o breswylwyr (27 y cant) ar amcangyfrif Cyfrifiad 1911 o 2.4 miliwn. Am bob pedwar preswylydd yng Nghymru yn 1911, roedd pump yn 2011.

Dengys Ffigur 1 Preswylwyr rhwng 1801 a 20111,2, 3 y twf hirdymor yn y boblogaeth sydd fel arfer yn byw yng Nghymru. Ar y graff, gwelir cynnydd sylweddol rhwng 2001 a 2011, sy’n dangos y cafwyd y twf mwyaf erioed yn nifer y boblogaeth mewn cyfnod 10 mlynedd rhwng cyfrifiadau ers 19211.

Cynyddodd y boblogaeth yn gymharol gyflym rhwng 1801 ac 1921, gan dyfu mwy na 10 y cant yn y rhan fwyaf o’r cyfnodau 10 mlynedd rhwng cyfrifiadau, cyn dirywio tan 1931 ac yna dyfu ar gyfradd o rhwng 1.3 y cant a 3.3 y cant ym mhob cyfnod 10 mlynedd tan 2001.

Ffigur 1 Preswylwyr rhwng 1801 a 2011, Cymru

Ffigur 1 Preswylwyr rhwng 1801 a 2011, Cymru

Lawrlwytho siart

  • PNG
    (28.8 Kb)

Lawrlwytho siart

Ceir newidiadau mewn poblogaeth oherwydd gwahaniaethau rhwng nifer y genedigaethau a marwolaethau, yn ogystal â chyfraddau mudo. Dengys data ar enedigaethau a marwolaethau, rhwng 2001 a 2011, fod 332,700 o enedigaethau a 320,900 o farwolaethau yng Nghymru, gan arwain at gynnydd o tua 11,900 o breswylwyr. Mae hyn yn cyfrif am 8 y cant o’r cynnydd yng nghyfanswm y boblogaeth, ac mae’n adlewyrchu cynnydd cyson mewn cyfraddau ffrwythlondeb yng Nghymru ers 2001, gyda gweddill y twf yn y boblogaeth yn deillio o fudo. Dengys Tabl 1 Newid yn y boblogaeth rhwng 2001 a 20113 y newid yn y boblogaeth rhwng 2001 a 2011 fesul awdurdod unedol.

Tabl 1 Newid yn y boblogaeth rhwng 2001 a 2011

Awdurdodau unedol Cymru

Awdurdod unedol Poblogaeth 2001 (nifer) Poblogaeth 2011 (nifer) Newid ers 2001 (y cant)
Caerdydd 310,100 346,100 11.6
Sir Benfro 113,100 122,400 8.2
Pen-y-bont ar Ogwr 128,700 139,200 8.2
Sir Fynwy 85,000 91,300 7.4
Abertawe 223,500 239,000 6.9
Casnewydd 137,600 145,700 5.9
Bro Morgannwg 119,300 126,300 5.9
Sir Gaerfyrddin 173,700 183,800 5.8
Caerffili 169,500 178,800 5.5
Powys 126,400 133,000 5.2
Conwy 109,700 115,200 5
Wrecsam 128,500 134,800 4.9
Merthyr Tudful 56,200 58,800 4.6
Gwynedd 116,800 121,900 4.4
Castell-nedd Port Talbot 134,400 139,800 4
Ynys Môn 67,800 69,700 2.8
Sir y Fflint 148,600 152,500 2.6
Rhondda Cynon Taf 231,900 234,400 1.1
Ceredigion 75,400 75,900 0.7
Sir Ddinbych 93,100 93,700 0.6
Torfaen 90,900 91,100 0.2
Blaenau Gwent 70,000 69,800 -0.3
Cymru 2,910,200 3,063,500 5.3
Lloegr 49,451,100 53,012,500 7.2

Lawrlwytho tabl

Arweiniodd dau batrwm mudo i mewn i Gymru at dwf; mudo rhyngwladol, a symud o rannau eraill o’r DU.

Cynyddodd mudo rhyngwladol i mewn i Gymru 46 y cant rhwng 2005 a 2008, ar ôl i 10 o wledydd ddod yn aelodau o’r UE yn 2004, gan roi’r hawl i breswylwyr y gwledydd hyn fyw yn y DU. Cafwyd dirywiad mewn cyfraddau mudo rhyngwladol ers hynny4.

Yr ail elfen o’r ddau fath hyn o fudo oedd llifau rhwng Cymru a gweddill y DU. Bu mewnlifiad net i Gymru o weddill y DU ym mhob blwyddyn rhwng 2001 a 2011, ar gyfartaledd o 6,800 o breswylwyr y flwyddyn, ac roedd y rhan fwyaf o’r llifau mudo rhwng Cymru a Lloegr.

Dengys Ffigur 2 Newid canrannol yn y boblogaeth rhwng 2001 a 20113 gymhariaeth rhwng cyfraddau twf Cymru a rhanbarthau Lloegr yn ogystal â Lloegr yn ei chyfanrwydd.

Ffigur 2 Newid canrannol yn y boblogaeth rhwng 2001 a 2011, Cymru,Lloegr, rhanbarthau Lloegr

Ffigur 2 Newid canrannol yn y boblogaeth rhwng 2001 a 2011, Cymru,Lloegr, rhanbarthau Lloegr

Lawrlwytho siart

  • PNG
    (27.9 Kb)

Lawrlwytho siart

Roedd y gyfradd twf ar gyfer poblogaeth Cymru yn is na’r rhan fwyaf o ranbarthau Lloegr, ond roedd yn uwch na Gogledd-orllewin a Gogledd-ddwyrain Lloegr. Roedd y gyfradd twf yng Nghymru ychydig yn is na hanner yr hyn a welwyd yn Llundain, a oedd â’r twf mwyaf o blith holl ranbarthau Lloegr.

Yng Nghymru, tyfodd Caerdydd ar gyfradd y gellir ei chymharu â rhanbarth Llundain, sef 12 y cant. Roedd Caerdydd yn un o bedwar awdurdod unedol yng Nghymru a dyfodd ar gyfraddau a oedd yn uwch na’r gyfradd ar gyfer Lloegr. Yr awdurdodau unedol eraill oedd Sir Benfro, Pen-y-bont ar Ogwr a Sir Fynwy. Mae’r rhesymau dros dwf yn y boblogaeth yn amrywio ledled rhanbarthau Cymru a Lloegr. Mewn rhanbarthau fel Llundain gwelwyd twf yn cael ei lywio gan fwy o enedigaethau na marwolaethau a mudo, tra yn rhanbarthau Cymru a Lloegr fel De-orllewin Lloegr a Dwyrain Canolbarth Lloegr, mae mudo yn cyfrif am y rhan fwyaf o’r newid yn y boblogaeth.

Yn ogystal â’r bobl sy’n byw yma fel arfer, mae Cyfrifiad 2011 wedi amcangyfrif nifer y bobl nas ganwyd yn y DU a oedd yn ‘breswylwyr byrdymor’. Mae’r rhain yn bobl a oedd (neu a oedd yn bwriadu bod) yng Nghymru a Lloegr am dri mis o leiaf ond nad oeddent yn disgwyl bod yma am flwyddyn gyfan, ac felly nad oeddent yn rhan o’r boblogaeth a oedd yn byw yma fel arfer. Lluniwyd yr amcangyfrif o breswylwyr byrdymor i ddarparu darlun mwy cyfannol o gyfanswm y boblogaeth ond mae’n seiliedig ar ymatebion eitem llai cyflawn (h.y. y cwestiwn am y bwriad i aros) na’r hyn a gyflawnwyd ar gyfer pynciau eraill ac felly nid yw o’r un ansawdd uchel â’r amcangyfrifon o’r boblogaeth. Fe’i defnyddiwyd i helpu i sicrhau ansawdd yr amcangyfrifon o’r boblogaeth breswyl ac fe’i cynhwysir yn y wybodaeth sicrhau ansawdd. Mae’r wybodaeth hon yn dangos, ar noson y cyfrifiad, fod 7,200 o breswylwyr byrdymor yng Nghymru. O’r grwp hwn, roedd 40 y cant yng Nghaerdydd.

Gall amcangyfrif y cyfrifiad ar gyfer presylwyr byrdymor nas ganwyd yn y DU5 gael ei gymharu â mudwyr byrdymor er bod rhai gwahaniaethau diffiniadol. Caiff ei gymharu ag amcangyfrifon arbrofol SYG o fudwyr byrdymor a chaiff adroddiad cysoni ei lunio.

Nodiadau ar gyfer Poblogaeth Cymru a sut mae wedi tyfu

  1. Ni chynhaliwyd cyfrifiad yn 1941, oherwydd yr Ail Ryfel Byd.

  2. Roedd cyfrifiadau cynnar yn cofnodi’r boblogaeth a oedd yn bresennol, yn hytrach na phreswylwyr arferol.

  3. Mae'r gymhariaeth â 2001 ac 1991 yn seiliedig ar amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth ar gyfer y blynyddoedd hynny mae'r gymhariaeth ag 1981 a blynyddoedd cynharach yn seiliedig ar ganlyniadau’r cyfrifiad.

  4. Mae adroddiadau manwl ar fudo ar gael gan Lywodraeth Cymru (ar gael yn Saesneg yn unig).

  5. Mae’r diffiniadau gweithredol a ddefnyddir ar gyfer y cyfrifiad ar gael yn Niffiniadau Poblogaeth Terfynol Cyfrifiad 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig).

Sut mae amcangyfrifon y cyfrifiad yn cymharu ag amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth 2010

Yr amcangyfrif cyhoeddedig diweddaraf o’r boblogaeth ar gyfer Cymru, cyn rhyddhau’r canlyniadau cyfrifiad hyn, yw’r amcangyfrif canol blwyddyn dynodol o’r boblogaeth ar 30 Mehefin 2010 sef 3.02 miliwn o bobl. Petai SYG yn diweddaru’r ffigur hwn ar gyfer genedigaethau, marwolaethau a mudo rhyngwladol net rhwng 1 Gorffennaf 2010 a 27 Mawrth 2011, byddai’r amcangyfrif o’r boblogaeth ar gyfer Cymru ar noson y cyfrifiad tua 3.03 miliwn o breswylwyr. Mae cymharu’r ffigur hwn ag amcangyfrif y cyfrifiad o 3.06 miliwn yn golygu bod y cyfrifiad yn amcangyfrif ychydig o dan 37,000 yn fwy o breswylwyr na’r amcangyfrifon o’r boblogaeth a gariwyd ymlaen. Mae SYG wedi cyhoeddi adroddiad sy’n egluro’r gwahaniaeth hwn ar y cyd â’r wybodaeth hon (361.9 Kb Pdf) (ar gael yn Saesneg yn unig).

Sut mae poblogaeth Cymru wedi newid dros y 100 mlynedd ddiwethaf

Roedd pobl yng Nghymru yn byw’n hirach yn 2011 na chan mlynedd yn ôl. Gellir gweld hyn yn Ffigur 3 Y boblogaeth yn ôl grwpiau oedran cyffredinol rhwng 1911 a 20111,2,3, sy’n dangos bod cyfran y boblogaeth o dan 15 oed yn gostwng, tra bod y gyfran 65 oed a throsodd yn cynyddu.

Roedd canran y preswylwyr 65 oed a throsodd ar ei huchaf erioed o blith unrhyw gyfrifiad sef 18.4 y cant, sy’n golygu bod mwy nag un o bob chwe phreswylydd yn y boblogaeth yn 65 oed a throsodd yn 2011. Yn 1911, dim ond un o bob 20 o breswylwyr oedd yn 65 oed a throsodd.

Mae cyfran y boblogaeth 90 oed a throsodd wedi cynyddu’n sylweddol dros y ganrif ddiwethaf. Roedd 25,000 o breswylwyr 90 oed a throsodd yn 2011 o gymharu â 19,400 yn 2001, a 700 yn 1911.

Ffigur 3 Y boblogaeth yn ôl grwp oedran cyffredinol rhwng 1911 a 2011, Cymru

Ffigur 3 Y boblogaeth yn ôl grŵp oedran cyffredinol rhwng 1911 a 2011, Cymru

Lawrlwytho siart

  • PNG
    (34.7 Kb)

Lawrlwytho siart

Gall y newid yng nghyfansoddiad cyffredinol y boblogaeth o iau i hyn gael ei weld hefyd yn y cynnydd yn oedran canolrif y boblogaeth o 25 oed yn 1911 i 41 yn 2011. Yr oedran canolrif ar gyfer dynion yn 2011 oedd 40 a'r oedran canolrif ar gyfer merched oedd 42. Byddai’r cynnydd mewn oedran canolrif yn fwy nodedig os na fyddai twf wedi bod yn y grwpiau oedran iau o ganlyniad i fudo.

Gellir dangos strwythur newidiol y boblogaeth yng Nghymru, sydd wedi’i diffinio yn ôl oedran a rhyw, ar ffurf pyramid poblogaeth. Dengys Ffigur 4 Poblogaeth breswyl yn ôl oedran a rhyw, 2001 a 20113,4 y newidiadau yn y 10 mlynedd ddiwethaf.

Ffigur 4 Poblogaeth breswyl yn ôl oedran a rhyw, 2001 a 2011

Ffigur 4 Poblogaeth breswyl yn ôl oedran a rhyw, 2001 a 2011

Lawrlwytho siart

  • PNG
    (47.2 Kb)

Lawrlwytho siart

 

Mae gwedd gyffredinol pyramid poblogaeth Cymru ar gyfer 2001 a 2011 yn cynrychioli poblogaeth sy’n heneiddio. Er bod y pyramid yn amrywio o ran lled, nid yw’n dechrau mynd yn gulach a hynny’n gyson tan y grwpiau oedran hyn. Yn achos dynion a merched, mae’n amlwg y bu twf sylweddol yn nifer y bobl yn eu 60au (symudodd pobl a anwyd ar anterth genedigaethau ar ôl yr Ail Ryfel Byd i’r grwp hwn), yn ogystal â thwf yn nifer y bobl yn eu 80au a 90au.

Mae manylion y pyramid yn dangos digwyddiadau mwy penodol. Ar y cyfan, adlewyrcha amrywiadau yn lled y pyramid gyfnodau lle cafwyd niferoedd uchel ac isel o enedigaethau. Ym mhyramid 2011, mae’r ardaloedd llydan ar gyfer pobl rhwng 40 a 49 oed a 63 a 64 oed yn cynrychioli’r nifer mawr o fabanod a anwyd yn y 60au a’r cynnydd mewn genedigaethau ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Mae gwaelod pyramid 2011 yn lledaenu o naw oed am i lawr gan ddangos bod mwy o enedigaethau mewn blynyddoedd diweddar. Roedd 11,100 yn fwy o blant o dan bump oed yn 2011 nag yn 2001. Mae’r cynnydd hwn yn deillio o gynnydd yng nghyfanswm y gyfradd ffrwythlondeb5 a nifer y merched o oedran esgor yn y boblogaeth sydd fel arfer yn byw yma dros y cyfnod o 10 mlynedd. Mae’r cynnydd yn nifer y merched o oedran esgor (15-45) yn deillio’n bennaf o fudo i mewn i Gymru dros y degawd diwethaf.

Mae cymharydd Cyfrifiad 2011 [Adobe Flash] (ar gael yn Saesneg yn unig) yn darparu rhagor o byramidau poblogaeth ar gyfer 2001 a 2011, ar gyfer rhanbarthau ac awdurdodau lleoll ac unedol gan gynnwys y rhai yng Nghymru.

Y boblogaeth iau

Ar wahân i Wrecsam, bu lleihad yn nifer y plant rhwng 0 a 14 oed ym mhob awdurdod unedol. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o awdurdodau unedol bu cynnydd yn nifer y plant rhwng 0 a 4 oed, fel a ddigwyddodd ym mhob awdurdod lleol ac unedol yn Lloegr.

Gostyngodd canran y boblogaeth rhwng 0 a 14 oed ym mron pob awdurdod unedol, gyda’r gostyngiad mwyaf ym Mlaenau Gwent, tri phwynt canran i 17 y cant. Dengys Map 1 Newid ym maint bandiau oedran (0-14 a 65 a throsodd) rhwng 2001 a 2011 fod llai o ostyngiad yng Ngogledd-ddwyrain Cymru ac yn yr awdurdodau unedol o amgylch Abertawe.

Bu cynnydd yng nghyfran y preswylwyr rhwng 15 a 29 oed ym mhob awdurdod unedol. Roedd y cynnydd hwn yn arbennig o nodedig yng Nghaerdydd; roedd mwy na 25 y cant o breswylwyr yng Nghaerdydd rhwng 15 a 29 oed, sef cynnydd o bedwar pwynt canran ers 2001.

Gwelwyd cynnydd mawr o dri phwynt canran yn y grwp oedran 15-29 mewn awdurdodau unedol trefol eraill, fel Casnewydd ac Abertawe, yn ogystal â Merthyr Tudful, er, fel yr awdurdod unedol lleiaf yng Nghymru (o ran ei boblogaeth), mae’r twf ym Merthyr Tudful yn y grwp oedran hwn yn 2,000 o bobl.

Yr oedran gweithio (15-64) a phoblogaethau hyn

Mae cyfran y boblogaeth rhwng 15 a 64 oed yn bwysig am fod gweithgarwch economaidd preswylwyr sy’n gweithio yn cefnogi’r gwasanaethau sydd eu hangen ar breswylwyr nad ydynt yn gweithio, fel ysgolion a chartrefi gofal. Mae’r band oedran hwn wedi cael ei ddefnyddio fel procsi ar gyfer y boblogaeth o oedran gweithio ond brasamcan ydyw gan na fydd unrhyw blant 15 oed a nifer bach iawn rhwng 16 a 18 oed yn gweithio tra y bydd rhai pobl sydd dros 64 oed yn gweithio.

Ceir chwe awdurdod unedol lle mae cyfran y grwp oedran 15-64 wedi gostwng rhwng 2001 a 2011. Y rhain yw Ynys Môn, Sir y Fflint, Sir Fynwy, Powys, Wrecsam a Sir Benfro. Fodd bynnag, mae’r grwp oedran hwn yn dal i gynnwys y rhan fwyaf o’r boblogaeth ac mae dros 60 y cant ym mhob awdurdod unedol. Yn 2001, roedd y grwp oedran 15-64 yn cyfrif am 64 y cant o’r boblogaeth ledled Cymru ac yn 2011 roedd yn cyfrif am 65 y cant; cynnydd o un pwynt canran.

Heblaw am Gaerdydd ac Abertawe, cafwyd cynnydd yng nghyfran y boblogaeth 65 oed a throsodd ym mhob awdurdod unedol a ddangosir ym Map 1 Newid ym maint bandiau oedran (0-14 a 65 a throsodd) rhwng 2001 a 20113. Gwelwyd y rhan fwyaf o’r cynnydd hwn mewn ardaloedd gwledig. Yn Ynys Môn y cafwyd y cynnydd mwyaf o bedwar pwynt canran; mae’r rheini sy’n 65 oed a throsodd bellach yn cyfrif am 22 y cant o’r boblogaeth. Caerdydd sydd â’r gyfran isaf o’r grwp oedran hwn ar 13 y cant.

Fodd bynnag, mae cryn dipyn o’r cynnydd yn y boblogaeth 65 oed a throsodd wedi’i gyfyngu i’r grwp oedran 65-69, a welodd gynnydd fel cyfran o’r boblogaeth ym mhob awdurdod unedol. Cynyddodd y grwp oedran hwn yn Ynys Môn a Phowys, ac ni fu unrhyw gynnydd cymaradwy mewn grwpiau oedran dros 65-69.

Map 1 Newid ym maint bandiau oedran (0-14 a 65 oed a throsodd) fesul awdurdod unedol rhwng 2001 a 2011

Awdurdodau unedol Cymru

Map 1 Newid ym maint bandiau oedran (0-14 a 65 oed a throsodd) rhwng 2001 a 2011, Awduruodau unedol Cymru

Nodiadau ar gyfer Sut mae poblogaeth Cymru wedi newid dros y 100 mlynedd ddiwethaf

  1. Ni chynhaliwyd cyfrifiad yn 1941, oherwydd yr Ail Ryfel Byd.

  2. Roedd cyfrifiadau cynnar yn cofnodi’r boblogaeth a oedd yn bresennol, yn hytrach na phreswylwyr arferol.

  3. Mae'r gymhariaeth â 2001 ac 1991 yn seiliedig ar amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth (ar gael yn Saesneg yn unig) ar gyfer y blynyddoedd hynny, mae'r gymhariaeth ag 1981 a blynyddoedd cynharach yn seiliedig ar ganlyniadau’r cyfrifiad.

  4. Ar gyfer llinellau cymharu 2001, cafodd amcangyfrif canol blwyddyn o’r boblogaeth 2001 ar gyfer nifer y bobl yn y categori 90+ oed ei ddosbarthu ar draws blynyddoedd oedran unigol ar gyfer y rheini rhwng 91 a 99 oed gan ddefnyddio cyfrannau fel y’u hamcangyfrifwyd yng Nghyfrifiad 2011. Dangosir pobl 100+ oed fel grwp.

  5. Ystyr cyfanswm y gyfradd ffrwythlondeb yw nifer cyfartalog y plant byw y byddai grwp o ferched yn eu cael yr un pe baent yn destun cyfraddau ffrwythlondeb oedran benodol y flwyddyn galendr dan sylw yn ystod eu blynyddoedd esgor. Mae cyfanswm y gyfradd ffrwythlondeb yn rhoi mesur cyfredol o nifer y plant a enir.

Dwysedd poblogaeth Cymru

Mae cyfanswm nifer y preswylwyr arferol, ar y cyd â gwybodaeth am arwynebedd ardal (ar gael yn Saesneg yn unig), yn ei gwneud hi’n bosibl i gyfrifo dwysedd poblogaeth. Yng Nghymru, mae’r dwysedd poblogaeth cyfartalog yn 148 o bobl fesul cilomedr sgwâr, er bod cryn amrywiad o ran dwysedd poblogaeth Cymru. Mae hyn o gymharu â dwysedd poblogaeth cyfartalog Lloegr o 407 o bobl fesul cilomedr sgwâr (356 o bobl fesul cilomedr sgwâr pan gaiff Llundain ei eithrio). Yn rhyngwladol, mae dwysedd poblogaeth Cymru yn debyg i Ddenmarc sydd â 129 o bobl fesul cilomedr sgwâr. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gymariaethau rhyngwladol ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2011 Census – Population and Household Estimates for England and Wales: March 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig).

Mae gan Gaerdydd ddwysedd poblogaeth sylweddol uwch nag unrhyw ardal awdurdod unedol arall yng Nghymru, sef 2,465 o bobl fesul cilomedr sgwâr; dwysedd poblogaeth sy’n debyg i Newcastle upon Tyne, sydd â 2,470 o bobl fesul cilomedr sgwâr. Mae dwysedd poblogaeth Caerdydd dros deirgwaith dwysedd poblogaeth Casnewydd, sydd â’r dwysedd uchaf nesaf o 765 o bobl fesul cilomedr sgwâr. Yr awdurdod unedol â’r dwysedd poblogaeth isaf yw Powys sydd â 27 o bobl fesul cilomedr sgwâr. Dangosir yr amrywiad hwn yn y dwysedd poblogaeth rhwng yr awdurdodau unedol yn Ffigur 5 Dwysedd poblogaeth, 2011.

Ffigur 5 Dwysedd poblogaeth, 2011, awdurdodau unedol Cymru

Ffigur 5 Dwysedd poblogaeth, 2011, awdurdodau unedol Cymru

Lawrlwytho siart

  • PNG
    (38.2 Kb)

Lawrlwytho siart

 

O roi’r 348 o awdurdodau lleol ac unedol yng Nghymru a Lloegr mewn trefn o ran dwysedd poblogaeth, mae Caerdydd yn y 74ain safle uchaf ac mae Powys yn y safle olaf ond un.  At hynny, mae pum awdurdod unedol (Powys, Ceredigion, Gwynedd, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin) ymhlith yr 20 o awdurdodau lleol ac unedol â’r dwysedd poblogaeth isaf ledled Cymru a Lloegr.

Mae dwysedd poblogaeth Cymru yn is nag unrhyw ranbarth yn Lloegr, ac mae dros draean maint y cyfartaledd ar gyfer Lloegr. Dengys Ffigur 6 Dwysedd poblogaeth Cymru a rhanbarthau Lloegr y tu allan i Lundain, 2011 gymhariaeth rhwng Cymru a rhanbarthau Lloegr, yn ogystal â Lloegr yn ei chyfanrwydd.

Ffigur 6 Dwysedd poblogaeth Cymru a rhanbarthau Lloegr y tu allan i Lundain, 2011, Cymru

Ffigur 6 Dwysedd poblogaeth Cymru a rhanbarthau Lloegr y tu allan i Lundain, 2011, Cymru

Lawrlwytho siart

  • PNG
    (30.2 Kb)

Lawrlwytho siart

Mae gan y rhan fwyaf o ranbarthau Lloegr ddwysedd poblogaeth sydd fwy na dwywaith dwysedd poblogaeth Cymru. Mae gan y rhanbarth lleiaf poblog yn Lloegr, sef y De-orllewin, 50 y cant yn fwy o bobl fesul cilomedr sgwâr ar gyfartaledd na Chymru.

Nifer y cartrefi yn 2011

Roedd 1.30 miliwn o gartrefi yng Nghymru ar 27 Mawrth 2011, sef cynnydd o 7.4 y cant o gymharu â’r 1.21 miliwn o gartrefi yn 2001. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 7.5 y cant yn Lloegr yn ystod yr un cyfnod. Mae Cymru yn cyfrif am 6 y cant o’r cartrefi yng Nghymru a Lloegr, fel ag y gwnaeth yn 20011.

Map 2 Cyfradd twf preswylwyr arferol a chartrefi fesul awdurdod unedol rhwng 2001 a 2011

Awdurdodau unedol Cymru

Map 2 Cyfradd twf preswylwyr arferol a chartrefi fesul awdurdod unedol rhwng 2001 a 2011
 

Yn 2011, roedd maint cyfartalog cartrefi2 yng Nghymru yn 2.3 o breswylwyr fesul cartref, ychydig yn is nag yn Lloegr. Tra bod nifer y cartrefi wedi cynyddu ychydig yn gyflymach na’r boblogaeth dros yr 20 mlynedd ddiwethaf,  mae maint cyfartalog cartrefi wedi lleihau.

Mae maint cyfartalog cartrefi yn eithaf cyson (rhwng 2.2 a 2.4 o breswylwyr fesul cartref) ym mhob awdurdod unedol yng Nghymru, ac mae’n amrywio i raddau llawer llai nag yn Lloegr, lle mae maint cyfartalog cartrefi yn amrywio rhwng 1.6 a 3.0.

Mae’r gyfradd twf o 7.4 y cant yn nifer y cartrefi yn debyg i’r twf yn Lloegr er, yn yr un modd â nifer y preswylwyr, ceir amrywiad sylweddol ledled Cymru fel y gwelir yn Nhabl 2 Awdurdodau unedol yn nhrefn y newid canrannol yn nifer y cartrefi rhwng 2001 a 20111.

Tabl 2 Awdurdodau unedol yn nhrefn y newid canrannol yn nifer y cartrefi rhwng 2001 a 2011

Awdurdodau unedol Cymru

Awdurdod unedol Cartrefi 2001 (nifer) Cartrefi 2011 (nifer) Newid (y cant)
Caerdydd 125,800 142,600 13.3
Sir Benfro 47,700 53,100 11.3
Bro Morgannwg 48,700 53,500 9.8
Pen-y-bont ar Ogwr 53,400 58,500 9.7
Abertawe 94,500 103,500 9.5
Sir Fynwy 35,200 38,200 8.4
Powys 53,900 58,400 8.4
Casnewydd 56,800 61,200 7.7
Caerffili 69,400 74,500 7.4
Sir Gaerfyrddin 73,500 78,800 7.3
Wrecsam 53,200 57,000 7.1
Gwynedd 49,300 52,500 6.6
Conwy 48,100 51,200 6.4
Ynys Môn 28,800 30,600 6.3
Rhondda Cynon Taf 94,600 99,700 5.4
Sir y Fflint 60,600 63,800 5.3
Castell-nedd Port Talbot 57,500 60,400 5
Merthyr Tudful 23,200 24,300 4.5
Blaenau Gwent 29,600 30,400 2.8
Torfaen 37,600 38,500 2.5
Sir Ddinbych 39,900 40,500 1.4
Ceredigion 31,200 31,600 1.1
Cymru 1,212,500 1,302,700 7.4
Lloegr 20,523,000 22,063,400 7.5

Lawrlwytho tabl

Nodiadau ar gyfer Nifer y cartrefi yn 2011

  1. Mae'r gymhariaeth â 2001 ac 1991 yn seiliedig ar amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth (ar gael yn Saesneg yn unig) ar gyfer y blynyddoedd hynny, mae'r gymhariaeth ag 1981 a blynyddoedd cynharach yn seiliedig ar ganlyniadau’r cyfrifiad.

  2. Cyfrifir maint cyfartalog cartrefi fel cyfanswm y preswylwyr mewn cartrefi wedi’i rannu â chyfanswm nifer y cartrefi. Nid yw’r mesur hwn yn cynnwys preswylwyr mewn sefydliadau cymunedol.

Nodiadau cefndirol

  1. Efallai na fydd y ffigurau’n fanwl gywir am eu bod wedi’u talgrynnu.

  2. Oni nodir fel arall, gwneir cymariaethau â 2011 ac 1991 gan ddefnyddio amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth (ar gael yn Saesneg yn unig) a ffigurau cyfresi hanesyddol amcanestyniadau cartrefi (ar gael yn Saesneg yn unig) gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Gwneir cymariaethau ag 1981 a blynyddoedd cynharach gan ddefnyddio amcangyfrifon y cyfrifiad.

  3. Yn wahanol i’r amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth, nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys cydrannau newid; cyfran y twf y gellir ei phriodoli i enedigaethau a marwolaethau o gymharu â mudo net.

  4. Fel rheol, preswylfa arferol unigolyn yw’r cyfeiriad lle mae’n aros y rhan fwyaf o’r amser. Yn achos llawer o bobl, eu cartref parhaol neu gartref y teulu fydd hwn. Os nad oedd gan aelod o’r lluoedd arfog gyfeiriad parhaol neu gyfeiriad y teulu lle mae’n byw fel arfer, nodwyd ei fod yn byw yn ei ganolfan filwrol fel arfer.

  5. Mae SYG yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Cynhaliwyd cyfrifiadau eraill yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar yr un pryd, y naill gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS) a’r llall gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA).

  6. Bu swyddogion o Lywodraeth Cymru yn ymwneud â’r gwaith o gynllunio Cyfrifiad 2011. Caiff Llywodraeth Cymru ei chynrychioli ar bob lefel o ran trefniadau llywodraethu’r cyfrifiad. Yn benodol, yn ystod 2011 a 2012, bu ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn ymwneud â’r broses sicrhau ansawdd a chynlluniau ar gyfer ystadegau’r cyfrifiad.

  7. Gofynnodd holiaduron y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr yr un cwestiynau ac eithrio un; cafodd cwestiwn ychwanegol am yr iaith Gymraeg ei gynnwys yn yr holiadur a ddosbarthwyd yng Nghymru.

  8. Mae SYG yn gyfrifol am gyhoeddi ystadegau’r DU (llunio ystadegau cymharol gan asiantaethau ystadegol y DU a nodir uchod). Caiff yr ystadegau hyn eu llunio wrth i bob un o’r tair asiantaeth ystadegol dan sylw gyhoeddi’r data perthnasol. Mae prosbectws cyfrifiad Gogledd Iwerddon (ar gael yn Saesneg yn unig) a gwybodaeth bellach am gyfrifiad yr Alban (ar gael yn Saesneg yn unig) ar gael ar lein.

  9. Caiff yr holl dermau allweddol a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn, fel preswylydd arferol a phreswylydd byrdymor, eu hegluro yng ngeirfa Cyfrifiad 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig).

  10. Mae rhagor o wybodaeth am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i lunio’r ystadegau hyn ac ansawdd y data ar gael yn y ddogfen Quality and Methodology Information (QMI) (361.9 Kb Pdf)  (ar gael yn Saesneg yn unig).

  11. Yn ogystal â’r wybodaeth yn y QMI, mae SYG hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth sicrhau ansawdd (1.23 Mb Pdf)  (ar gael yn Saesneg yn unig) sy’n rhoi manylion am y broses sicrhau ansawdd a gyflawnwyd ar gyfer pob awdurdod lleol ac unedol ac adroddiad sy’n egluro’r gwahaniaeth rhwng amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth ac amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 (361.9 Kb Pdf)  (ar gael yn Saesneg yn unig).

  12. Mae’r wybodaeth a ddarperir gan y cyfrifiad yn galluogi llywodraeth ganolog a lleol, awdurdodau/byrddau iechyd a llawer o sefydliadau eraill i dargedu eu hadnoddau’n fwy effeithiol. Mae SYG wedi sicrhau bod y data a gasglwyd yn diwallu anghenion defnyddwyr drwy gynnal ymgynghoriad ar allbynnau Cyfrifiad 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig) a oedd yn eang ei gwmpas er mwyn sicrhau y bydd allbynnau Cyfrifiad 2011 yn fwy defnyddiol o ran cynllunio gwasanaethau tai, addysg, iechyd a thrafnidiaeth yn y dyfodol.

  13. Caiff rhagor o gyfresi data o Gyfrifiad 2011 eu cyhoeddi dros y 18 mis nesaf; mae gwybodaeth ar gael ar lein ym mhrosbectws Cyfrifiad 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig).  Bydd y rhain yn cynnwys data pellach ac yn cwmpasu pynciau fel grwpiau ethnig manwl, crefydd, teithio i’r gwaith, iechyd a theuluoedd, hunaniaeth, yr iaith Gymraeg, cyflogaeth ac addysg.

  14. Mae’r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar noson y cyfrifiad. Caiff y rhain eu llunio ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddwyr gan gynnwys y llywodraeth, awdurdodau lleol ac unedol, busnesau a chymunedau. Mae’r cyfrifiad yn darparu ystadegau ar y boblogaeth o lefel genedlaethol i lefel leol. Mae’r bwletin hwn yn trafod y canlyniadau ar lefel genedlaethol a lefel awdurdodau unedol; fodd bynnag, bydd cyfresi data o Gyfrifiad 2011 a ryddheir yn y dyfodol yn cynnwys tabliadau ar lefelau daearyddol eraill gan gynnwys wardiau, ardaloedd iechyd, etholaethau seneddol, sectorau cod post a pharciau cenedlaethol.

  15. Mae manylion y polisi ar ryddhau data newydd ar gael yn www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html neu drwy anfon e-bost at y Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: media.relations@ons.gsi.gov.uk

    Caiff yr Ystadegau Gwladol hyn eu cynhyrchu yn unol â safonau proffesiynol uchel a'u rhyddhau yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Cyswllt ystadegol

Enw Ffôn Adran E-bost
Denise McGregor +44 (0)1329 444972 Swyddfa Ystadegau Gwladol census.customerservices@ons.gsi.gov.uk
Gweld holl dablau'r cyhoeddiad hwn yn adran ddata'r cyhoeddiad .
Cynnwys gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
© Hawlfraint y Goron yn gymwys oni nodir yn wahanol.