Map dwysedd poblogaeth – Cymru (pdf) (294.3 Kb Pdf)
Roedd gan Gymru boblogaeth o dua 3 miliwn yng nghanol 2009, cynnydd o 1.9 y cant ers 2004. Mae hyn yn cymharu â chynnydd cyffredinol o 3.3 y cant am y DU yn ystod yr un cyfnod. (Tabl 1.2)
Roedd pobl 65 oed ac yn hŷn a phobl dan 16 yng Nghymru yn 2009 yn cyfrif am 18.3 y cant o’r boblogaeth. Mae hyn yn cymharu â chyfartaleddau’r DU o 16.4 y cant a 18.7 y cant yn y drefn honno. (Tabl 10.2)
Yng Nghymru, gallai dynion 65 oed yn 2007-09 ddisgwyl byw 17.2 mlynedd arall ac yn achos menywod 20.0 mlynedd. Mae hyn yn cymharu â 17.6 ac 20.2 o flynyddoedd yn y DU gyfan. (Tabl 6.8)
Y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru oedd 8.4 y cant ym mhedwerydd chwarter 2010, o’i chymharu â chyfradd y DU o 7.9 y cant. (Tabl 1.1)
Roedd cyfran uwch o blant yng Nghymru (21.1 y cant) yn byw mewn aelwydydd heb waith yn ail chwarter 2010 na’r cyfartaleddau ar gyfer Gogledd Iwerddon (16.2 y cant), Lloegr (15.9 y cant) a’r Alban (15.3 y cant). (Tabl 8.6)
Ym mis Ebrill 2010, yr enillion wythnosol gros canolrif i weithwyr amser llawn ar gyfraddau oedolion a oedd yn preswylio yng Nghymru oedd £456, sy’n cymharu â £487 yn yr Alban a £442 yng Ngogledd Iwerddon. (Tabl 9.19)
Roedd cynhyrchedd llafur (gwerth gros ychwanegol am bob awr a weithiwyd) yng Nghymru yn 2009 yn 15.9 y cant islaw cyfartaledd y DU. (Tabl 3.2)
Yng Nghymru, enillodd 49.4 y cant o ddisgyblion pump neu ragor o raddau A*-C ar lefel TGAU neu gymhwyster cyfatebol gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf a mathemateg yn 2009/10. Mae hyn yn cymharu â 49.8 y cant ar gyfer Lloegr a 58.6 y cant ar gyfer gogledd Iwerddon. (Tabl 4.8)
Ailgylchodd neu compostiodd awdurdodau unedol yng Nghymru 40 y cant o wastraff aelwydydd yn 2009/10 sy’n cymharu â 40 y cant yn Lloegr, 38 y cant yn yr Alban a 36 y cant yng Ngogledd Iwerddon. (Tabl 5.11)
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ffynhonnell:
Cyhoeddir yr holl ddata gan ONS heblaw’r rhai a restrir isod.
Data addysg ac ailgylchu oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Data ailgylchu oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Llywodraeth yr Alban ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon.
Nodiadau:
Mae’r ffigurau TGAU i Gymru yn cynnwys nifer fach o ddisgyblion sy’n ennill y Gymraeg fel iaith gyntaf ond dim Saesneg.
You may use or re-use this information (not including logos) free of charge in any format or medium, under the terms of the Open Government Licence, or write to the Information Policy Team, The National Archives, Kew, London TW9 4DU, or email: psi@nationalarchives.gsi.gov.uk
Mae manylion y polisi ar ryddhau data newydd ar gael yn www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html neu drwy anfon e-bost at y Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: media.relations@ons.gsi.gov.uk
Nid yw SYG yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol