Mae Cymru yn cwmpasu 20,700 cilometr sgwâr, y trydydd mwyaf o wledydd y Deyrnas Unedig a rhanbarthau Lloegr, gan gymryd 9 y cant o holl arwynebedd y DU. Mae ganddi fwy na 1,200 cilometr (750 milltir) o arfordir, gan gynnwys ei hynysoedd, ac Ynys Môn yw’r ynys fwyaf ym Môr Iwerddon hefyd. Mae Cymru’n fynyddig yn gyffredinol, gyda’i chopaon uchaf yn y gogledd a’r canolbarth, yn enwedig Eryri.
Dwysedd poblogaeth Cymru yng nghanol 2010 oedd 145 o bobl y cilometr sgwâr. Mae dwy o bob tair o bobl yng Nghymru (ychydig o dan 2 miliwn) yn byw mewn ardaloedd trefol (â phoblogaeth o fwy na 10,000), sydd wedi eu crynhoi’n bennaf yn ne-ddwyrain y wlad.
O ran poblogaeth Cymru yw’r drydedd leiaf o’r gwledydd a rhanbarthau gyda 3.0 miliwn yng nghanol 2010. Cynyddodd poblogaeth Cymru rhwng 2001 a 2010 gan 3.3 y cant, o’i chymharu â chodiad o 5.3 y cant i’r DU dros yr un cyfnod.
Pobl 65 oed ac yn hŷn oedd 18.6 y cant o’r boblogaeth tra bod y sawl o dan 16 oed yn 18.2 y cant o’r boblogaeth yn 2010. Mae hyn yn cymharu â ffigurau’r DU o 16.6 y cant a 18.6 y cant yn y drefn honno.
Disgwyliad oes adeg geni am y cyfnod tair blynedd 2008 i 2010 oedd 77.5 oed i ddynion ac 81.7 oed i fenywod o’u cymharu â 78.1 ac 82.1 oed yn y drefn honno i’r DU.
Roedd gan bron 16 y cant o oedolion 16 i 64 oed anableddau a oedd yn cyfyngu ar eu gweithgarwch neu eu gwaith bob dydd yn y flwyddydn a ddaeth i ben Mawrth 2011, y gyfran uchaf o holl wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
Roedd gan Gymru’r drydedd gyfran uchaf o blant yn byw mewn aelwydydd heb waith o’r holl wledydd a rhanbarthau ym mhedwerydd chwarter 2011 (sef 20.0 y cant). Mae hyn yn cymharu â 15.8 y cant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon a 15.7 y cant yn Lloegr.
Sgorau cyfartalog y Rhaglen i Asesu Myfyrwyr yn Rhyngwladol (PISA) yn 2009 i Gymru oedd 476 mewn darllen; mathemateg 472; a gwyddoniaeth 496, o’u cymharu â sgorau cyfartalog ledled yr OECD o 500. Roedd y sgorau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn debyg i’w gilydd ym mhob un o’r tri phwnc a Chymru a sgoriodd isaf o’r pedair cenedl gartref ym mhob pwnc.
Cyfrannodd Cymru bron 4 y cant o werth ychwanegol crynswth (GVA) y DU yn 2010. Roedd cynhyrchedd llafur (gwerth ychwanegol crynswth am bob awr a weithir) yn 16.1 y cant islaw cyfartaledd y DU.
Incwm aelwydydd crynswth i'w wario (GDHI) trigolion Cymru oedd y pedwerydd isaf o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr sef £13,800 y pen yn 2010.
Roedd gostyngiad o 1.9 y cant mewn prisiau tai yn 2011, o’u cymharu â gostyngiadau yn yr Alban (4.6 y cant) a Gogledd Iwerddon (8.5 y cant) a chodiad yn Lloegr (0.1 y cant).
Y gyfradd gyflogaeth oedd 68.1 y cant yn chwarter cyntaf 2012, o’i chymharu â chyfradd y DU o 70.5 y cant.
Yn Ebrill 2011, enillion wythnosol crynswth canolrif gweithwyr cyflogedig amser llawn ar gyfraddau oedolion a oedd yn byw yng Nghymru oedd £460, sy’n cymharu â £491 yn yr Alban a £451 yng Ngogledd Iwerddon.
Cwtogodd Cymru gyfanswm ei hallyriannau nwyon tŷ gwydr 15 y cant rhwng 1990 a 2010.
Mae’r erthygl yn Regional Trends 43 'Rural and urban areas: comparing lives using rural/urban classifications' yn edrych ar ardaloedd gwledig a threfol yn ystadegol am sawl thema gan gynnwys poblogaeth, gan ddefnyddio dosbarthiadau daearyddol.
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol
Nodiadau a ffynonellau:
Cyhoeddir yr holl ddata gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) oni nodir isod.
Mae adran ddata’r cyhoeddiad hwn yn rhoi rhagor o ddata.
Mae amcangyfrifon poblogaeth a dwysedd poblogaeth yn cyfeirio at 30 Mehefin bob blwyddyn. Yr amcangyfrifon poblogaeth canol 2010 yw’r rhai a gyhoeddwyd ar 30 Mehefin 2011.
Mae ffigurau disgwyliad oes yn adlewyrchu marwolaethau ymhlith y sawl sy’n byw yn yr ardal ym mhob cyfnod, yn hytrach na marwolaethau ymhlith y sawl a enir ym mhob ardal. Cyfartaleddau 3 blynedd yw’r data.
Diffiniadau o anabledd a ddefnyddir ar gyfer pobl (16 i 64 oed) sy’n anabl o dan DDA.
Mae aelwydydd heb waith am ardaloedd ledled y DU yn rhoi rhagor o wybodaeth am gyflogaeth aelwydydd a’r oedolion a’r plant sy’n byw ynddynt.
Mae Rhaglen i Asesu Myfyrwyr yn Rhyngwladol (PISA) yr OECD yn ceisio mesur y i ba raddau y gall myfyrwyr gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau maent wedi eu dysgu yn yr ysgol i heriau bywyd go iawn. OECD (2010), PISA 2009 Results: What Students Know and Can Do: Student Performance in Reading, Mathematics and Science (Volume I), OECD Publishing.
Mae gwerth ychwanegol crynswth (GVA) yn mesur allbwn economaidd ardal. Seilir yr amcangyfrifon ar y gweithle, sy’n dyrannu incymau unigolion i’w lle gwaith.
GVA am bob awr a weithir yw un o’r mesurau cynhyrchedd llafur sy’n cael eu ffafrio. Mae’r dudalen we cynhyrchedd yn rhoi mynediad i’r cyhoeddiadau diweddaraf.
Mae incwm aelwydydd crynswth i'w wario (GDHI) yn ddangosydd da o les trigolion ardal. Mae’n cwmpasu’r incwm a geir gan aelwydydd a sefydliadau di-elw sy’n gwasanaethu aelwydydd ac yn net o daliadau treth.
Seilir y Mynegai Prisiau Tai ar brisiau tai a addaswyd yn ôl cymysgedd, sy’n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau rhwng tai sy’n cael eu gwerthu (er enghraifft math, nifer ystafelloedd, lleoliad). Mae’r gyfradd newid flynyddol a ddangosir yn newid canrannol rhwng Rhagfyr 2010 a Rhagfyr 2011.
Mae cyfraddau cyflogaeth ymhlith pbrif ddangosyddion yr Arolwg o’r Llafurlu (LFS) wedi eu haddasu’n dymhorol, am bob person 16 i 64 oed.
Mae enillion wythnosol crynswth canolrif yn amcangyfrifon ar sail preswylfan o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) ar gyfer gweithwyr cyflogedig amser llawn ar gyfraddau oedolion nad effeithiwyd ar eu tâl am gyfnod tâl yr arolwg gan absenoldeb.
Daw data am nwyon tŷ gwydr o Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
Mae manylion y polisi ar ryddhau data newydd ar gael yn www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html neu drwy anfon e-bost at y Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: media.relations@ons.gsi.gov.uk
Nid yw SYG yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol