Skip to content

Y cyfrifiad yn dangos bod poblogaeth Cymru dros dair miliwn

Dyddiad rhyddhau: 16 Gorffennaf 2012 Lawrlwytho PDF (125.1 Kb)

Roedd gan Gymru boblogaeth o 3.06 miliwn ar ddiwrnod y cyfrifiad (27 Mawrth 2011) – cynnydd o 153,000 (5 y cant) dros y 10 mlynedd ddiwethaf, o gymharu â 2.91 miliwn yn 2001. Cyhoeddwyd canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2011 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) heddiw.

Y twf yng Nghymru oedd y mwyaf mewn unrhyw gyfnod 10 mlynedd rhwng cyfrifiadau ers 1921. Cyfraddau mudo oedd yn gyfrifol am tua 90 y cant o’r twf, gan gynnwys pobl yn symud i Gymru o rannau eraill o’r DU yn ogystal â mudo rhyngwladol.

Meddai Jil Matheson, Ystadegydd Gwladol:

"Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru am eu cymorth. Mae Cyfrifiad 2011 wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac ymfalchïaf yn yr ymdrech arbennig a wnaed. Mae’n ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth am y boblogaeth a’i nodweddion. Cafwyd ymateb gan tua 19 o bob 20 o bobl yng Nghymru a Lloegr ac mae gennym ddulliau ystadegol ardderchog ar waith i sicrhau bod gennym amcangyfrif cyflawn o’r boblogaeth gyfan. Bydd yr ystadegau hyn yn rhoi gwybodaeth werthfawr i gynllunwyr, llunwyr polisi a’r cyhoedd am flynyddoedd i ddod."

O ran awdurdodau lleol yng Nghymru, Caerdydd oedd â’r boblogaeth fwyaf, sef 346,000 o bobl, ac yno hefyd y gwelwyd y twf mwyaf yn y boblogaeth gyda chynnydd o 36,000 (12 y cant) o gymharu â 2001. Caerdydd oedd yr awdurdod lleol â’r dwysedd poblogaeth uchaf hefyd, gyda 2,500 o bobl fesul cilomedr sgwâr. Mae hyn yn cyfateb i tua 25 o bobl ar gae rygbi.

Gwelwyd cynnydd yn y boblogaeth yn y rhan fwyaf o awdurdodau yng Nghymru ers 2001, er bod gostyngiad bach (0.3 y cant) ym Mlaenau Gwent, a gwelwyd dirywiad yn y boblogaeth mewn 17 o awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr.  

Yng Nghymru, Conwy oedd yr awdurdod unedol â’r gyfran uchaf o bobl 65 oed a throsodd (25 y cant), a Chaerdydd oedd â’r gyfradd isaf (13 y cant). Mae gan Gymru hefyd gyfran uwch o bobl 65 oed na bron pob rhanbarth yn Lloegr.

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y plant o dan bump oed yng Nghymru a Lloegr. Yng Nghymru, roedd 11,000 yn fwy o blant o dan bump oed yn 2011 o gymharu â 2001, sy’n gynnydd o 7 y cant. Wrecsam oedd â’r gyfran uchaf yn y grŵp oedran hwn, sef 7 y cant, a Cheredigion oedd â’r gyfran isaf, sef 5 y cant. Gwelwyd cynnydd o 13 y cant yn nifer y plant o dan bump oed yn Lloegr, tua dwywaith y cynnydd a welwyd yng Nghymru.

Roedd nifer y bobl sy’n byw mewn cartrefi ar gyfartaledd ar ei isaf yng Nghonwy, sef 2.2 o bobl. Yn gyffredinol, nid oedd llawer o amrywiad o ran nifer y bobl sy’n byw mewn cartrefi ar gyfartaledd ledled Cymru.

Roedd twf y boblogaeth rhwng 2001 a 2011 yn arafach yng Nghymru na Lloegr. Yn ystod yr un cyfnod, gwelwyd cynnydd o 3.6 miliwn (7 y cant) ym mhoblogaeth Lloegr.

Meddai Glen Watson, Cyfarwyddwr y Cyfrifiad:

"Mae’r broses gyfan wedi gweithio’n dda. Gwnaethom gyflawni ein targedau o ran ymateb ac ansawdd. Rydym wedi cael cefnogaeth wych gan y cyhoedd, a hefyd gan grwpiau gwirfoddol, grwpiau cymunedol ac awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a fu’n gysylltiedig, gan gynnwys y 35,000 o bobl a fu’n casglu’r data ac a helpodd i sicrhau bod y cyfrifiad yn llwyddiant."

Darllenwch yr adroddiadau llawn:

Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn ôl maint eu poblogaeth yng Nghyfrifiad 2011

Enw’r ALl Poblogaeth 2011 Poblogaeth 2001  Newid 2001-2011 (y cant)
Caerdydd 346,100 310,100 11.6
Abertawe 239,000 223,500 6.9
Rhondda Cynon Taf 234,400 231,900 1.1
Sir Gaerfyrddin 183,800 173,700 5.8
Caerffili 178,800 169,500 5.5
Sir y Fflint 152,500 148,600 2.6
Casnewydd 145,700 137,600 5.9
Castell-nedd Port Talbot 139,800 134,400 4
Pen-y-bont ar Ogwr 139,200 128,700 8.2
Wrecsam 134,800 128,500 4.9
Powys 133,000 126,400 5.2
Bro Morgannwg 126,300 119,300 5.9
Sir Benfro 122,400 113,100 8.2
Gwynedd 121,900 116,800 4.4
Conwy 115,200 109,700 5
Sir Ddinbych 93,700 93,100 0.6
Sir Fynwy 91,300 85,000 7.4
Torfaen 91,100 90,900 0.2
Ceredigion 75,900 75,400 0.7
Blaenau Gwent 69,800 70,000 -0.3
Ynys Môn 69,700 67,800 2.8
Merthyr Tudful 58,800 56,200 4.6

Lawrlwytho tabl

 

Am ragor o wybodaeth:

Llinell y Cyfryngau:  01329 447654
 
E-bost:    2011censuspress@ons.gsi.gov.uk
Ewch i:    www.ons.gov.uk/census am ddadansoddiadau a gwybodaeth fanylach
Twitter:    www.twitter.com/2011censusinfo
 

Nodiadau cefndirol

  1. Mae’r cyfrifiad yn rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir posibl o boblogaeth Cymru a Lloegr ac fe’i cynhaliwyd bob 10 mlynedd ers 1801, ar wahân i 1941, gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Dim ond at ddibenion y cyfrifiad y defnyddir y wybodaeth a roddir i SYG, mae’n ddienw a chaiff ei diogelu am 100 mlynedd. Cynhaliwyd y cyfrifiad ar 27 Mawrth 2011. Mae holl ffigurau poblogaeth y cyfrifiad yn cyfeirio at y diwrnod hwnnw.  
  2. Mae’r llywodraeth yn defnyddio ystadegau’r cyfrifiad i ddyrannu arian i wasanaethau fel addysg, trafnidiaeth ac iechyd. Mae llunwyr polisi llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yn defnyddio’r cyfrifiad i nodi anghenion gwahanol gymunedau ac fe’i defnyddir hefyd gan fentrau masnachol. Mae’r cyfrifiad hefyd yn darparu’r meincnod ar gyfer amcangyfrifon o’r boblogaeth yn y dyfodol ac arolygon sampl.
  3. Cafodd pobl a oedd yn byw yng Nghymru fersiwn Cymraeg a Saesneg o’r holiadur ac roedd y ddau fersiwn yn cynnwys cwestiwn ychwanegol am yr iaith Gymraeg.
  4. Am y tro cyntaf, roedd modd llenwi a dychwelyd holiadur y cyfrifiad ar lein. Llenwyd 8,900 o holiaduron gan ddefnyddio fersiwn Cymraeg yr holiadur ar-lein.  
  5. Defnyddir ffigurau Cyfrifiad 2011 fel sail ar gyfer amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth 2011 y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi ym mis Medi 2012. Maes o law, ailbennir sail amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth 2002-2010.  
  6. Cynhyrchir ystadegau gwladol yn unol â’r safonau proffesiynol uchel a nodir yn y Cod Ymarfer ar Ystadegau Gwladol. Cynhelir adolygiadau sicrhau ansawdd rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Fe’u cynhyrchir am ddim ac ni cheir unrhyw ymyrraeth wleidyddol.
  7. Bydd yr ail gyfres o ddata, y disgwylir iddi gael ei chyhoeddi rhwng mis Tachwedd 2012 a mis Chwefror 2013, yn cwmpasu ystadegau manylach gan gynnwys hunaniaeth genedlaethol, ethnigrwydd, yr iaith Gymraeg, statws priodasol a phartneriaeth sifil, a chrefydd.
  8. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfrifiad, dilynwch ni ar Twitter @2011censusinfo
  9. Rhai ffeithiau am y broses o gasglu data’r cyfrifiad ledled Cymru a Lloegr:
    • Argraffwyd y 25 miliwn o holiaduron 32 tudalen (16 dalen o bapur) a anfonwyd i gartrefi yng Nghymru a Lloegr ar gyfradd o wyth holiadur yr eiliad
    • O’u pentyrru, byddai’r holiaduron 200 gwaith uchder The Shard
    • Proseswyd 170,000 o holiaduron y dydd
    • Argraffwyd yr holiaduron ar bapur o ffynonellau cynaliadwy a chafodd 1,700 o dunelli eu dinistrio a’u hailgylchu ar ôl iddynt gael eu prosesu.
  10. Mae manylion y polisi ar ryddhau data newydd ar gael yn www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html neu drwy anfon e-bost at y Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: media.relations@ons.gsi.gov.uk

Cynnwys gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
© Hawlfraint y Goron yn gymwys oni nodir yn wahanol.