Roedd gan Gymru boblogaeth o 3.06 miliwn ar ddiwrnod y cyfrifiad (27 Mawrth 2011) – cynnydd o 153,000 (5 y cant) dros y 10 mlynedd ddiwethaf, o gymharu â 2.91 miliwn yn 2001. Cyhoeddwyd canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2011 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) heddiw.
Y twf yng Nghymru oedd y mwyaf mewn unrhyw gyfnod 10 mlynedd rhwng cyfrifiadau ers 1921. Cyfraddau mudo oedd yn gyfrifol am tua 90 y cant o’r twf, gan gynnwys pobl yn symud i Gymru o rannau eraill o’r DU yn ogystal â mudo rhyngwladol.
Meddai Jil Matheson, Ystadegydd Gwladol:
"Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru am eu cymorth. Mae Cyfrifiad 2011 wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac ymfalchïaf yn yr ymdrech arbennig a wnaed. Mae’n ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth am y boblogaeth a’i nodweddion. Cafwyd ymateb gan tua 19 o bob 20 o bobl yng Nghymru a Lloegr ac mae gennym ddulliau ystadegol ardderchog ar waith i sicrhau bod gennym amcangyfrif cyflawn o’r boblogaeth gyfan. Bydd yr ystadegau hyn yn rhoi gwybodaeth werthfawr i gynllunwyr, llunwyr polisi a’r cyhoedd am flynyddoedd i ddod."
O ran awdurdodau lleol yng Nghymru, Caerdydd oedd â’r boblogaeth fwyaf, sef 346,000 o bobl, ac yno hefyd y gwelwyd y twf mwyaf yn y boblogaeth gyda chynnydd o 36,000 (12 y cant) o gymharu â 2001. Caerdydd oedd yr awdurdod lleol â’r dwysedd poblogaeth uchaf hefyd, gyda 2,500 o bobl fesul cilomedr sgwâr. Mae hyn yn cyfateb i tua 25 o bobl ar gae rygbi.
Gwelwyd cynnydd yn y boblogaeth yn y rhan fwyaf o awdurdodau yng Nghymru ers 2001, er bod gostyngiad bach (0.3 y cant) ym Mlaenau Gwent, a gwelwyd dirywiad yn y boblogaeth mewn 17 o awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr.
Yng Nghymru, Conwy oedd yr awdurdod unedol â’r gyfran uchaf o bobl 65 oed a throsodd (25 y cant), a Chaerdydd oedd â’r gyfradd isaf (13 y cant). Mae gan Gymru hefyd gyfran uwch o bobl 65 oed na bron pob rhanbarth yn Lloegr.
Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y plant o dan bump oed yng Nghymru a Lloegr. Yng Nghymru, roedd 11,000 yn fwy o blant o dan bump oed yn 2011 o gymharu â 2001, sy’n gynnydd o 7 y cant. Wrecsam oedd â’r gyfran uchaf yn y grŵp oedran hwn, sef 7 y cant, a Cheredigion oedd â’r gyfran isaf, sef 5 y cant. Gwelwyd cynnydd o 13 y cant yn nifer y plant o dan bump oed yn Lloegr, tua dwywaith y cynnydd a welwyd yng Nghymru.
Roedd nifer y bobl sy’n byw mewn cartrefi ar gyfartaledd ar ei isaf yng Nghonwy, sef 2.2 o bobl. Yn gyffredinol, nid oedd llawer o amrywiad o ran nifer y bobl sy’n byw mewn cartrefi ar gyfartaledd ledled Cymru.
Roedd twf y boblogaeth rhwng 2001 a 2011 yn arafach yng Nghymru na Lloegr. Yn ystod yr un cyfnod, gwelwyd cynnydd o 3.6 miliwn (7 y cant) ym mhoblogaeth Lloegr.
Meddai Glen Watson, Cyfarwyddwr y Cyfrifiad:
"Mae’r broses gyfan wedi gweithio’n dda. Gwnaethom gyflawni ein targedau o ran ymateb ac ansawdd. Rydym wedi cael cefnogaeth wych gan y cyhoedd, a hefyd gan grwpiau gwirfoddol, grwpiau cymunedol ac awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a fu’n gysylltiedig, gan gynnwys y 35,000 o bobl a fu’n casglu’r data ac a helpodd i sicrhau bod y cyfrifiad yn llwyddiant."
Darllenwch yr adroddiadau llawn:
| Enw’r ALl | Poblogaeth 2011 | Poblogaeth 2001 | Newid 2001-2011 (y cant) |
|---|---|---|---|
| Caerdydd | 346,100 | 310,100 | 11.6 |
| Abertawe | 239,000 | 223,500 | 6.9 |
| Rhondda Cynon Taf | 234,400 | 231,900 | 1.1 |
| Sir Gaerfyrddin | 183,800 | 173,700 | 5.8 |
| Caerffili | 178,800 | 169,500 | 5.5 |
| Sir y Fflint | 152,500 | 148,600 | 2.6 |
| Casnewydd | 145,700 | 137,600 | 5.9 |
| Castell-nedd Port Talbot | 139,800 | 134,400 | 4 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 139,200 | 128,700 | 8.2 |
| Wrecsam | 134,800 | 128,500 | 4.9 |
| Powys | 133,000 | 126,400 | 5.2 |
| Bro Morgannwg | 126,300 | 119,300 | 5.9 |
| Sir Benfro | 122,400 | 113,100 | 8.2 |
| Gwynedd | 121,900 | 116,800 | 4.4 |
| Conwy | 115,200 | 109,700 | 5 |
| Sir Ddinbych | 93,700 | 93,100 | 0.6 |
| Sir Fynwy | 91,300 | 85,000 | 7.4 |
| Torfaen | 91,100 | 90,900 | 0.2 |
| Ceredigion | 75,900 | 75,400 | 0.7 |
| Blaenau Gwent | 69,800 | 70,000 | -0.3 |
| Ynys Môn | 69,700 | 67,800 | 2.8 |
| Merthyr Tudful | 58,800 | 56,200 | 4.6 |
Am ragor o wybodaeth:
Llinell y Cyfryngau: 01329 447654
E-bost: 2011censuspress@ons.gsi.gov.uk
Ewch i: www.ons.gov.uk/census am ddadansoddiadau a gwybodaeth fanylach
Twitter: www.twitter.com/2011censusinfo
Mae manylion y polisi ar ryddhau data newydd ar gael yn www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html neu drwy anfon e-bost at y Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: media.relations@ons.gsi.gov.uk