Heddiw, cyhoeddir nodweddion poblogaeth Cymru ar lefel genedlaethol a lefel awdurdod lleol o ganfyddiadau diweddaraf Cyfrifiad 2011 yng Nghymru a Lloegr, a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Maent yn ategu’r ffigurau poblogaeth a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Gorffennaf 2012, a nododd mai 3.1 miliwn oedd cyfanswm poblogaeth Cymru ar ddiwrnod y cyfrifiad (27 Mawrth 2011) - cynnydd o 153,000 (5 y cant) yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, o 2.9 miliwn yn 2001.
Mae'r canfyddiadau hyn yn manylu ar fywydau preswylwyr yn y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Ymhlith y pynciau a gwmpesir mae ethnigrwydd, crefydd, gwlad enedigol, iechyd, llety, deiliadaeth, a'r defnydd o geir a faniau. Yn ogystal, ar gyfer Cymru’n unig, cyhoeddir ystadegau ar y sawl sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg. Rhoddir manylion llawn yn y Bwletin Ystadegol a'r tablau ategol.
Dyma rai o’r prif ffeithiau am fywyd yng Nghymru:
Sgiliau iaith Gymraeg
Er i 80 y cant o bobl rhwng 45 a 49 oed yng Nghymru nodi nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau Cymraeg, newidiodd y ganran hon ar gyfer y rheini rhwng 10 a 14 oed, gyda 47 y cant ohonynt yn nodi nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau Cymraeg
Yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o breswylwyr tair oed a throsodd a nododd nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau Cymraeg oedd Blaenau Gwent (59,600 o bobl, 88 y cant). Yma, nododd dros 95 y cant o’r holl breswylwyr 25 oed a throsodd nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau Cymraeg, tra nododd 52 y cant o'r rheini rhwng 10 a 14 oed yn y dosbarth hwn nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau o'r fath
Gwynedd oedd â'r ganran uchaf o breswylwyr tair oed a throsodd a nododd eu bod yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg (65,900 o bobl, 56 y cant). Yn y dosbarth hwn, nododd 88 y cant o'r rheini rhwng 10 a 14 oed eu bod yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg
Hunaniaeth genedlaethol
Nododd bron dwy ran o dair (66 y cant, 2 filiwn) o breswylwyr eu bod yn Gymry
Rhondda Cynon Taf oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr a nododd fod ganddynt 'hunaniaeth Gymreig yn unig' (171,800 o bobl, 73 y cant), gyda Merthyr Tudful yn dynn ar ei sodlau (43,100 o bobl, 73 y cant)
Merthyr Tudful oedd â'r gyfran isaf o bobl â hunaniaeth 'Seisnig' (2,100 o bobl, 4 y cant) neu 'Seisnig a Phrydeinig' (200 o bobl, llai nag 1 y cant)
Ethnigrwydd
Caerdydd oedd â'r gyfran isaf o'r grŵp ethnig 'Gwyn: Cymreig/Seisnig/Albanaidd/Gwyddelig Gogledd Iwerddon/Prydeinig' yng Nghymru, sef 80 y cant. Blaenau Gwent a Chaerffili oedd â'r gyfran uchaf, sef 97 y cant. Y cyfartaledd ar gyfer Cymru oedd 93 y cant, a'r cyfartaledd ar gyfer Cymru a Lloegr gyda'i gilydd oedd 80 y cant
Crefydd
Roedd cyfran y bobl yng Nghymru a nododd eu bod yn Gristnogion wedi gostwng 14 pwynt canran ers 2001 i 1.76 miliwn (58 y cant)
Wrth edrych ar Gymru a rhanbarthau Lloegr gyda’i gilydd, gwelwyd y gostyngiad mwyaf yn y nifer a nododd mai ‘Cristnogaeth’ oedd eu crefydd yng Nghymru, sef 16 y cant (0.3 miliwn) ers 2001
Nododd bron draean (32 y cant) o’r boblogaeth yng Nghymru nad oedd ganddynt grefydd - y gyfran uchaf o blith yr holl ranbarthau yng Nghymru a Lloegr
Poblogaeth
Hwn oedd y cynnydd mwyaf yn y boblogaeth yng Nghymru yn ystod unrhyw un o gyfnodau’r cyfrifiad ers 1951
Mudo oedd yn cyfrif am tua 90 y cant o’r twf hwn, gan gynnwys pobl yn symud i Gymru o fannau eraill yn y DU, yn ogystal â mudo rhyngwladol
Ymfudodd 93,600 o breswylwyr arferol nas ganwyd yn y DU i Gymru rhwng 2001 a 2011
Dywedodd Guy Goodwin, Cyfarwyddwr Cyfrifiad SYG:
“Mae’r ystadegau hyn yn creu darlun o gymdeithas ac yn ein helpu ni i gyd i gynllunio ar gyfer y dyfodol gan ddefnyddio gwybodaeth gywir ar lefel leol.
“Dim ond y dechrau yw hyn o ran ystadegau’r cyfrifiad. Caiff rhagor o haenau cyfoethog o wybodaeth allweddol eu datgelu wrth i ni gyhoeddi data manylach ar gyfer lefelau lleol iawn dros y misoedd nesaf.”
Mae rhagor o fanylion ar fyw a gweithio yng Nghymru ar gael, gan gynnwys:
Ceir a faniau
Gwelwyd cynnydd o 20 y cant yn nifer y ceir a faniau a oedd ar gael i aelodau cartrefi yng Nghymru rhwng 2001 a 2011, o 1.3 i 1.6 miliwn. Mae’r cynnydd hwn yn uwch nag yn Lloegr (bron 14 y cant)
Roedd gan ychydig yn fwy o gartrefi yng Nghymru bedwar car neu fwy o gymharu â Lloegr (tua 2 y cant yn y ddau achos)
Yng Nghymru, roedd mwy o gartrefi â mynediad i ddau gar neu fan na chartrefi heb fynediad iddynt
Mae canran y cartrefi yng Nghymru sydd â mynediad i ddau, dri neu bedwar car neu fan neu fwy wedi cynyddu bron 6 phwynt canran – mwy o newid nag a welwyd yn Lloegr
Priodas
Lleihaodd nifer y cartrefi sy’n cynnwys pâr priod i raddau mwy yng Nghymru nag yn Lloegr (gwahaniaeth o 5 pwynt canran), yn enwedig ym Mlaenau Gwent (7 pwynt canran yn llai) a Chasnewydd (7 pwynt canran yn llai)
Perchenogaeth cartrefi
Yn 2011, Cymru oedd â’r nifer fwyaf o gartrefi â rhywun yn berchen arnynt yn gyfan gwbl (35 y cant) o gymharu â’r rhanbarthau yn Lloegr, fymryn yn uwch na Rhanbarth De-orllewin Lloegr (35 y cant hefyd)
Iechyd a darpariaeth gofal di-dâl
O gymharu â Lloegr, roedd gan Gymru lai o breswylwyr a nododd fod eu hiechyd yn dda neu’n dda iawn: 78 y cant (o gymharu ag 81 y cant yn Lloegr)
O’r awdurdodau lleol â’r gyfran uchaf o breswylwyr a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn, mae 8 o’r 10 uchaf yng Nghymru
Roedd yn dal i fod gan fwy o bobl yng Nghymru salwch hirdymor sy’n cyfyngu ar weithgareddau (23 y cant) na Lloegr (18 y cant)
Roedd gan Gymru fwy o ofalwyr di-dâl a oedd yn rhoi rhwng 20 a 49 awr a 50 neu fwy o oriau o ofal na Lloegr: 2 a 3 y cant yn y drefn honno
Mae’r Bwletin Ystadegol ategol ar gyfer Cyfres 2.1 yn trafod y pynciau hyn yn fanylach.
Am ragor o wybodaeth
Llinell y cyfryngau: 01329 447654
E-bost: 2011censuspress@ons.gsi.gov.uk
Ewch i: http://www.ons.gov.uk/census am ddadansoddiadau a gwybodaeth fanylach
Twitter: www.twitter.com/statisticsONS
Mae manylion y polisi ar ryddhau data newydd ar gael yn www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html neu drwy anfon e-bost at y Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: media.relations@ons.gsi.gov.uk