Skip to content

Adroddiad - Amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 heb eu talgrynnu o'r boblogaeth a chartrefi ar gyfer Cymru This product is designated as National Statistics

Dyddiad rhyddhau: 24 Medi 2012 Lawrlwytho PDF

Cyflwyniad

Ar 16 Gorffennaf 2012, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) y canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2011 ar gyfer Cymru a Lloegr, sef 'Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi ar gyfer Cymru'.

Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth i awdurdodau unedol am boblogaeth breswyl arferol Cymru yn ôl bandiau oedran pum mlynedd a rhyw, yn ogystal â gwybodaeth am bynciau fel nifer y cartrefi a nifer y preswylwyr byrdymor.

Ar 24 Medi, cyhoeddodd SYG ffigurau heb eu talgrynnu ar gyfer y rheini a nodir yng nghanlyniadau'r cyfrifiad ar 16 Gorffennaf. Mae amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth 2011 a gyhoeddwyd ar 25 Medi yn seiliedig ar amcangyfrifon y cyfrifiad heb eu talgrynnu.

 

 

Cyhoeddi amcangyfrifon wedi'u talgrynnu ym mis Gorffennaf 2012

Yn achos y canlyniadau a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf, bu'n rhaid talgrynnu amcangyfrifon y cyfrifiad i'r 100 agosaf am fod nifer fechan o gamau prosesu heb eu cwblhau ar y pryd. Drwy dalgrynnu i'r 100 agosaf, nid oes fawr o wahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon a gyhoeddwyd bryd hynny a'r rhai a gyhoeddwyd wedyn. Roedd yr amcangyfrifon a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf yn destun rhaglen sicrhau ansawdd gynhwysfawr fel bod defnyddwyr yn hyderus am y ffigurau a gyhoeddwyd.

Drwy gyhoeddi amcangyfrifon wedi'u talgrynnu ym mis Gorffennaf, bu modd i SYG rannu canlyniadau cyntaf y cyfrifiad â defnyddwyr a hefyd eu defnyddio wrth baratoi amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth. Gellir defnyddio'r rhain, yn eu tro, yng nghylch nesaf dyrannu adnoddau llywodraeth leol.

Fodd bynnag, cydnabu SYG y gallai hyn olygu y byddai rhai mân wahaniaethau rhwng y ffigurau a gyhoeddwyd mewn cyfresi dilynol heb eu talgrynnu a'r rheini a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Gorffennaf.

Newidiadau a wnaed i'r amcangyfrifon ers eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf

Ers eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf, mae'r gwaith o brosesu data'r cyfrifiad wedi'i gwblhau gan gynnwys, yn benodol, y broses o reoli datgelu ystadegol a chreu ffiniau daearyddol ardaloedd bach lle mae maint y boblogaeth wedi newid ers Cyfrifiad 2001.

Rhoddir mesurau rheoli datgelu ystadegol ar waith mewn perthynas â holl amcangyfrifon y cyfrifiad er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei datgelu ac nad oes modd adnabod unigolyn. Drwy dalgrynnu amcangyfrifon i'r 100 agosaf yng nghyfres mis Gorffennaf nid oedd unrhyw risg o ddatgelu gwybodaeth bersonol a bu'n bosibl cyhoeddi canlyniadau'n gynnar cyn i'r broses ddatgelu lawn gael ei chwblhau. Dim ond am fod y gweithdrefnau datgelu terfynol wedi'u rhoi ar waith y mae nawr modd cyhoeddi'r amcangyfrifon heb eu talgrynnu.

Er mwyn rhoi cyfrif am newidiadau i faint poblogaeth ardaloedd bach ers Cyfrifiad 2001, diweddarwyd canran fach o ddaearyddiaeth yr Ardal Allbwn a ddefnyddiwyd yn 2001. Unwaith y cânt eu hadolygu, bydd yr Ardaloedd Allbwn hyn yn rhan o'r conglfeini sy'n 'gweddu orau' i greu'r ddaearyddiaeth ardaloedd uwch y cyhoeddir canlyniadau Cyfrifiad 2011 ar eu cyfer. Gan mai dim ond ar ôl i amcangyfrifon terfynol y cyfrifiad o'r boblogaeth ddod yn hysbys y gellir gwneud y fath ddiweddaru, nid oedd y cam prosesu hwn yn bosibl cyn rhyddhau'r canlyniadau ym mis Gorffennaf.

Caiff rhagor o wybodaeth am gynnal hierarchaeth Ardal Allbwn Cyfrifiad 2011 ei chyhoeddi gyda ffeiliau am-edrych a gwybodaeth ddaearyddol arall mewn da bryd i gyhoeddi canlyniadau ardaloedd bach y cyfrifiad.

Graddau'r gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon ym mis Medi a mis Gorffennaf

Nid oes fawr o wahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf a'r rheini a gyhoeddwyd ar 24 Medi. Mae'r gwahaniaethau ar gyfer pob amcangyfrif yn ôl oedran/rhyw ar lefel awdurdod lleol bob amser yn llai na 100. Mewn gwirionedd, dim ond 3 y cant o'r amcangyfrifon hyn ledled Cymru a Lloegr sy'n wahanol fwy na 50. Gan fod yr amcangyfrifon a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf wedi'u talgrynnu'n annibynnol, nid oes unrhyw gyfanswm awdurdod lleol yn wahanol fwy na 100.

Cysondeb rhwng amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 ac amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth 2011

Mae amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth 2011 yn seiliedig ar amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 heb eu talgrynnu. Wrth gwrs, mae gwahaniaethau anochel rhwng y ddwy set derfynol o amcangyfrifon am eu bod yn cyfeirio at wahanol gyfnodau mewn amser ac yn seiliedig ar ddiffiniadau sydd ychydig yn wahanol lle y caiff unigolion eu hystyried yn breswylwyr arferol, ac felly lle y cânt eu cyfrif. 

Mae amcangyfrifon y cyfrifiad yn cyfeirio at 27 Mawrth 2011 tra bod yr amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth yn cyfeirio at 30 Mehefin 2011. Gwnaed amcangyfrif o'r newid yn y boblogaeth rhwng y ddau ddyddiad hyn er mwyn ystyried y genedigaethau, marwolaethau a mudo net a fu yn y cyfamser.

Mân wahaniaethau sydd o ran y diffiniad o breswylydd ar y cyfan gan eu bod ond yn berthnasol i is-grwpiau penodol o'r boblogaeth. Er enghraifft, mae'r cyfrifiad yn cynnwys personél y lluoedd arfog yng nghartref parhaol y teulu ond roedd amcangyfrifon canol 2011 yn cynnwys personél y lluoedd arfog yn eu canolfannau. Bydd rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau yn y diffiniadau a ddefnyddir ar gael gydag amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig) a gaiff eu cyhoeddi ar 25 Medi.

Nodiadau cefndirol

  1. Mae manylion y polisi ar ryddhau data newydd ar gael yn www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html neu drwy anfon e-bost at y Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: media.relations@ons.gsi.gov.uk

    Caiff yr Ystadegau Gwladol hyn eu cynhyrchu yn unol â safonau proffesiynol uchel a'u rhyddhau yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Gwybodaeth ategol

Geirfa

Ardal Allbwn
Ar gyfer Cyfrifiad 2011, yr Ardal Allbwn yw'r uned ddaearyddol leiaf y cyhoeddir allbynnau ar ei chyfer. Ardaloedd Allbynnau yw'r conglfeini a gaiff eu cyfuno i greu pob ardal ddaearyddol uwch y cyhoeddir ystadegau ar ei chyfer, yn unol â Pholisi Daearyddol Ystadegau Gwladol. Mae'r amcangyfrifon hyn sy'n 'gweddu orau' felly'n gyson ac yn gymaradwy ag Ystadegau Gwladol eraill a baratowyd gan ddefnyddio'r polisi daearyddol.

Preswylydd arferol
Y brif sylfaen boblogaeth ar gyfer allbynnau o Gyfrifiad 2011 yw'r boblogaeth breswyl arferol ar ddiwrnod y cyfrifiad (27 Mawrth 2011). Er bod y sylfaen boblogaeth i'w chyfrifo yn cynnwys preswylwyr byrdymor nad ydynt o'r DU, ni chânt eu cynnwys yn y prif allbynnau o Gyfrifiad 2011, ond fe'u dadansoddir ar wahân. Oni nodir yn wahanol, caiff yr holl allbynnau eu llunio gan ddefnyddio preswylwyr arferol yn y DU yn unig. At ddibenion Cyfrifiad 2011, mae preswylydd arferol yn y DU yn unrhyw un a oedd, ar ddiwrnod y cyfrifiad, yn y DU ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y DU am 12 mis neu fwy, neu oedd â chyfeiriad parhaol yn y DU ac a oedd y tu allan i'r DU ac yn bwriadu bod y tu allan i'r DU am lai na 12 mis.

Rheoli Datgelu Ystadegol
Mae cyfrinachedd gwybodaeth bersonol o'r cyfrifiad yn hollbwysig, felly er mwyn atal gwybodaeth am unigolion y gellir eu hadnabod rhag cael ei datgelu mewn camgymeriad, defnyddir amrywiaeth o fesurau diogelu datgelu ystadegol. Yn gyntaf, caiff cofnodion yn y gronfa ddata allbwn eu cyfnewid rhwng ardaloedd daearyddol gwahanol. Mae'r gwaith cyfnewid hwn yn targedu'r cartrefi hynny mewn ardaloedd bach â nodweddion anarferol y gellir eu hadnabod. Er mwyn diogelu ymhellach rhag datgelu gwybodaeth bersonol, rhoddwyd rhywfaint o gyfyngiadau hefyd ar fanyldeb y canlyniadau a gyhoeddir, yn arbennig mewn tablau ar gyfer poblogaethau bach. Mae hefyd drothwyon gofynnol ar gyfer nifer y bobl a chartrefi y mae'n rhaid eu cael yn yr ardaloedd lleiaf y gellir cyhoeddi setiau o ganlyniadau ar eu cyfer.

Gweld holl dablau'r cyhoeddiad hwn yn adran ddata'r cyhoeddiad .
Cynnwys gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
© Hawlfraint y Goron yn gymwys oni nodir yn wahanol.