Garnett Compton
Cyfrifiad 2011
census.customerservices@ons.gsi.gov.uk
Ffôn: +44 (0)1329 444972
Categorïau: Population, Population Estimates, Population Estimates by Age and Sex, People and Places, Households, Number of Households
Amlder datgan: Bob deng mlynedd
Iaith: Cymraeg
Cwmpas daearyddol: Cymru
Dadansoddiad Daearyddol: Awdurdod Lleol/Sir
Enw(au)'r arolwg: Census
Y gyfres hon, sef 'Amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 o'r Boblogaeth a Chartrefi ar gyfer Cymru - amcangyfrifon heb eu talgrynnu ar gyfer y data a gyhoeddwyd 16 Gorffennaf', yw'r canlyniadau heb eu talgrynnu cyntaf i'w cyhoeddi o Gyfrifiad Poblogaeth Cymru a Lloegr 2011.
Rhoddir gwybodaeth am boblogaeth breswyl arferol Cymru yn ôl oedran a rhyw, yn ogystal â gwybodaeth am bynciau fel nifer y cartrefi a nifer y preswylwyr byrdymor. Fe'i cyhoeddir ar y cyd ag '2011 Census Population and household estimates for England and Wales - unrounded figures for the data published 16 July'.
Cyflwynir canlyniadau ar gyfer Cymru ac awdurdodau unedol cyfansoddol. Yr amcangyfrifon a gynhwysir yw'r ffigurau ategol heb eu talgrynnu i'r rheini a gyhoeddwyd gyntaf yn 'Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi ar gyfer Cymru' ar 16 Gorffennaf 2012, a gafodd eu talgrynnu i 100. Mae'r gyfres hon hefyd yn ystyried gwybodaeth bellach sydd wedi dod i'r amlwg yn sgil cwblhau'r gwaith prosesu a gwaith sicrhau ansawdd pellach. Mae hefyd yn cynnwys mân gywiriadau a wnaed i'r ffordd y cafodd y data ei gyflwyno.
Mae tablau sy'n cyfateb i'r rheini a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf wedi'u cynnwys yn y gyfres hon, ond gyda ffigurau heb eu talgrynnu. Mae rhai o'r tablau hefyd yn cynnwys rhywfaint o fanylion ychwanegol - ffigurau blwyddyn oedran unigol fesul rhyw, a gyhoeddwyd ar lefel gwlad yn unig yn flaenorol, ond sydd bellach ar gael ar gyfer awdurdodau unedol.
Yn ogystal a'r tablau a nodir, mae'r data rhyngweithiol a gyhoeddwyd gyntaf ar 16 Gorffennaf i helpu i ddehongli'r canlyniadau – cymharydd Cyfrifiad 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig) - hefyd wedi'i ddiweddaru gyda'r amcangyfrifon heb eu talgrynnu a gyhoeddir yn y gyfres hon.
Mae fapiau rhyngweithiol newydd yn darparu barn o nodweddion penodol pob awdurdod lleol ac unedol yng nghyd-destun ardaloedd o amgylch hefyd ar gael. Mae'r nodweddion hyn yn cynnwys y boblogaeth a dwysedd cartref pob ardal, a'r newid yn y boblogaeth a nifer yr aelwydydd rhwng 2001 a 2011.
Mae amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 yn rhagflaenu amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth 2011 (30 Mehefin) a ailseiliwyd i ystyried canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn hytrach na chael eu cario ymlaen o Gyfrifiad 2001. Bydd yr amcangyfrifon a ailseiliwyd, a gyhoeddwyd ar 25 Medi 2012, hefyd ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Caiff y gyfres amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth ar gyfer 2002 - 2010 eu hailseilio hefyd, maes o law, i adlewyrchu canlyniadau Cyfrifiad 2011; caiff y gyfres amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth wedi ei hailseilio ar lefel genedlaethol ei chyhoeddi erbyn diwedd 2012 a chaiff amcangyfrifon is-genedlaethol eu cyhoeddi yn ystod gwanwyn 2013.
Caiff rhagor o ganlyniadau o'r cyfrifiad eu rhyddhau yn ddiweddarach eleni, a bydd SYG yn llunio ac yn cyhoeddi ystadegau ar gyfer y DU gyfan ar ôl i bob un o dair swyddfa'r cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyhoeddi'r data perthnasol.
Mae rhagor o wybodaeth am amcangyfrifon y cyfrifiad, gan gynnwys manylion am y fethodoleg a ddefnyddiwyd a gwybodaeth am sut y caiff is-grwpiau eraill o'r boblogaeth eu cyfrif a'u diffinio ar gael yn Diffiniadau a gwybodaeth ategol (ar gael yn Saesneg yn unig).
Mae rhagor o wybodaeth am addasrwydd at ddiben yr ystadegau yn y gyfres hon ar gael yn y papur Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg (157.6 Kb Pdf) (ar gael yn Saesneg yn unig).
Mae rhagor o wybodaeth am yr amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth, gan gynnwys yr amcangyfrifon diweddaraf (a gyhoeddwyd ar 25 Medi), sylwadau a manylion am y fethodoleg a ddefnyddiwyd, yn Amcangyfrifon o'r boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr (ar gael yn Saesneg yn unig).
Cyfrifiad 2011 - Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi ar gyfer Cymru
Prosbectws Cyfrifiad 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig)
Diffiniadau a gwybodaeth ategol Cyfrifiad 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig)
Caiff yr Ystadegau Gwladol hyn eu cynhyrchu yn unol â safonau proffesiynol uchel a'u rhyddhau yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.