Skip to content

Cwestiynau Cyffredin - Amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 heb eu talgrynnu o'r boblogaeth a chartrefi ar gyfer Cymru This product is designated as National Statistics

Dyddiad rhyddhau: 24 Medi 2012 Lawrlwytho PDF

Cyflwyniad

Ar 16 Gorffennaf 2012, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) y canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2011 ar gyfer Cymru a Lloegr, sef 'Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi ar gyfer Cymru'.

Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth i awdurdodau unedol am boblogaeth breswyl arferol Cymru yn ôl bandiau oedran pum mlynedd a rhyw, yn ogystal â gwybodaeth am bynciau fel nifer y cartrefi a nifer y preswylwyr byrdymor.

Ar 24 Medi, y diwrnod cyn cyhoeddi amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth 2011 (sy'n seiliedig ar amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 heb eu talgrynnu), mae SYG wedi cyhoeddi ffigurau heb eu talgrynnu ar gyfer y rheini a nodwyd yng nghanlyniadau'r cyfrifiad ar 16 Gorffennaf.

Cwestiynau cyffredin

Ai diwygiad o'r amcangyfrifon a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2012 yw'r amcangyfrifon hyn heb eu talgrynnu?

Na. Mae'r amcangyfrifon hyn sydd heb eu talgrynnu yn ddiweddariad a gynlluniwyd i'r rheini a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2012 - dyma'r amcangyfrifon heb eu talgrynnu sydd bellach ar gael ar ôl i'r ychydig gamau terfynol ar brosesu data gael eu cwblhau. Cyhoeddwyd yr amcangyfrifon ym mis Gorffennaf 2012 er mwyn sicrhau bod canlyniadau cyntaf data'r cyfrifiad ar gael i ddefnyddwyr a hefyd er mwyn eu defnyddio wrth baratoi amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth. Ar y pryd, esboniodd SYG yr angen i dalgrynnu'r amcangyfrifon hyn, a dechreuodd roi cynlluniau ar waith i gyflwyno'r amcangyfrifon heb eu talgrynnu mewn da bryd i gyhoeddi amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth 2011. Nodwyd y gyfres hon yng nghalendr rhyddhau SYG ac yng nghanolfan cyhoeddiadau UKSA ar ddiwedd mis Gorffennaf.

Nid oes fawr o wahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf a'r rheini a gyhoeddwyd ar 24 Medi. Mae'r gwahaniaethau ar gyfer pob amcangyfrif oedran/rhyw ar lefel awdurdod lleol bob amser yn llai na 100. Mewn gwirionedd, dim ond 3 y cant o'r amcangyfrifon hyn sy'n wahanol fwy na 50.

Pam bod yr amcangyfrifon heb eu talgrynnu yn cael eu cyhoeddi nawr?

Ar adeg cyhoeddi'r amcangyfrifon wedi'u talgrynnu ar 16 Gorffennaf, roedd rhai o'r camau prosesu data terfynol heb eu cwblhau, gan gynnwys camau rheoli datgelu ystadegol sy'n sicrhau na chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei datgelu ac nad oes modd adnabod unigolyn yng nghanlyniadau'r cyfrifiad.  Mae'r camau prosesu terfynol hyn bellach wedi'u cwblhau.

Pam bod yr amcangyfrifon a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf wedi'u talgrynnu i 100?

Talgrynnwyd yr amcangyfrifon a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf i'r 100 agosaf am fod rhai o'r camau prosesu olaf heb eu cwblhau ar y pryd. Roedd talgrynnu yn diogelu rhag unrhyw newidiadau a allai ddeillio o brosesu data ar gamau mwy diweddar, megis rheoli datgelu ystadegol.

Os byddaf yn talgrynnu'r amcangyfrifon hyn sydd heb eu talgrynnu, a fyddaf yn sylwi ar unrhyw wahaniaeth o gymharu â'r rheini a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf?

Nid oes fawr o wahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf a'r rheini a gyhoeddwyd ar 24 Medi. Mae'r gwahaniaethau ar gyfer pob amcangyfrif oedran/rhyw ar lefel awdurdod lleol bob amser yn llai na 100. Mewn gwirionedd, dim ond 3 y cant o'r amcangyfrifon hyn sy'n wahanol fwy na 50. Gan fod yr amcangyfrifon a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf wedi'u talgrynnu'n annibynnol, nid oes unrhyw gyfanswm awdurdod lleol yn wahanol fwy na 100.

Sut mae'r amcangyfrifon hyn yn debyg neu'n wahanol i amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth 2011?

Mae amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth 2011 yn seiliedig ar amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 heb eu talgrynnu a chânt eu cyhoeddi ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar 25 Medi 2012.

Mae amcangyfrifon y cyfrifiad yn cyfeirio at 27 Mawrth 2011 tra bod yr amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth yn cyfeirio at 30 Mehefin 2011. Gwnaed amcangyfrif o'r newid yn y boblogaeth rhwng y ddau ddyddiad hyn er mwyn ystyried y genedigaethau, marwolaethau a mudo a fu yn y cyfamser.

Mae'r ddwy set o amcangyfrifon hefyd yn seiliedig ar ddiffiniadau sydd ychydig yn wahanol lle y dylai unigolion gael eu hystyried yn breswylwyr, ac felly lle y cânt eu cyfrif. Er enghraifft, roedd y cyfrifiad yn cynnwys personél y lluoedd arfog yng nghartref parhaol y teulu ond roedd amcangyfrifon canol blwyddyn 2011 yn cynnwys y lluoedd arfog yn eu canolfannau.

Bydd rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau yn y diffiniadau a ddefnyddir ar gael gydag amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig) a gaiff eu cyhoeddi ar 25 Medi.

Pam y gelwir ystadegau'r cyfrifiad yn amcangyfrifon y tro hwn?

Fel gyda phob cyfrifiad, bydd canran fach o bobl heb gael ei chynnwys a hyd yn oed lai o bobl a fydd wedi'u cyfrif ddwywaith (efallai eu bod yn byw mewn mwy nag un cartref, er enghraifft, myfyrwyr). Mae hyn hefyd yn wir am gyfrifiadau yn rhyngwladol.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi defnyddio gweithdrefnau ystadegol i ddelio â hyn, gan gynnwys gwybodaeth o Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad a mesurau sicrhau ansawdd eraill. Lle nad yw pobl wedi'u cynnwys, mae'r mesurau hyn yn ein galluogi i amcangyfrif eu nifer a'u nodweddion a llunio amcangyfrifon o'r boblogaeth gyfan.

Pryd y caiff rhagor o ganlyniadau Cyfrifiad 2011 eu cyhoeddi?

Bydd SYG yn cyflwyno rhagor o wybodaeth fanylach o Gyfrifiad 2011 fesul cam. Bydd y cyntaf o'r rhain rhwng mis Tachwedd 2012 a mis Chwefror 2013, a bydd yn cynnwys yr ystadegau cyntaf ar gyfer ardaloedd lleol. Bydd dau brif gam arall yn cynnwys rhyddhau canlyniadau manylach ar ddiwedd 2013.  Mae rhagor o wybodaeth am ryddhau canlyniadau ar gael ym mhrosbectws Allbynnau Cyfrifiad 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig).

Pam nad oes canlyniadau manylach ar gael yn gynt?

Er bod y data a gasglwyd wedi'i brosesu bellach, a bod yr amcangyfrifon o'r boblogaeth wedi bod yn destun proses sicrhau ansawdd lawn, mae gwaith i'w wneud o hyd i lunio canlyniadau manwl.

Bydd y prif ystadegau nesaf i'w cyhoeddi yn cwmpasu holl bynciau'r cyfrifiad - gan roi cymaint o wybodaeth â phosibl am bob pwnc unigol dan sylw - ar gyfer amrywiaeth o ardaloedd i lawr i'r lefel fwyaf lleol, yr Ardal Allbwn.

Mae angen cynnal nifer o archwiliadau hefyd i sicrhau ymhellach ansawdd y canlyniadau manwl terfynol i'w cyhoeddi, a sicrhau diogelwch gwybodaeth bersonol pan gaiff gwybodaeth fanwl ei pharatoi ar gyfer ardaloedd lleol bach. Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i gwblhau'r camau terfynol hyn a dechrau cyhoeddi canlyniadau manwl fesul cam o fis Tachwedd 2012.

Nodiadau cefndirol

  1. Mae manylion y polisi ar ryddhau data newydd ar gael yn www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html neu drwy anfon e-bost at y Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: media.relations@ons.gsi.gov.uk

    Caiff yr Ystadegau Gwladol hyn eu cynhyrchu yn unol â safonau proffesiynol uchel a'u rhyddhau yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Gwybodaeth ategol

Geirfa

Ardal Allbwn
Ar gyfer Cyfrifiad 2011, yr Ardal Allbwn yw'r uned ddaearyddol leiaf y cyhoeddir allbynnau ar ei chyfer. Ardaloedd Allbynnau yw'r conglfeini a gaiff eu cyfuno i greu pob ardal ddaearyddol uwch y cyhoeddir ystadegau ar ei chyfer, yn unol â Pholisi Daearyddol Ystadegau Gwladol. Mae'r amcangyfrifon hyn sy'n 'gweddu orau' felly'n gyson ac yn gymaradwy ag Ystadegau Gwladol eraill a baratowyd gan ddefnyddio'r polisi daearyddol.

Preswylydd arferol
Y brif sylfaen boblogaeth ar gyfer allbynnau o Gyfrifiad 2011 yw'r boblogaeth breswyl arferol ar ddiwrnod y cyfrifiad (27 Mawrth 2011). Er bod y sylfaen boblogaeth i'w chyfrifo yn cynnwys preswylwyr byrdymor nad ydynt o'r DU, ni chânt eu cynnwys yn y prif allbynnau o Gyfrifiad 2011, ond fe'u dadansoddir ar wahân. Oni nodir yn wahanol, caiff yr holl allbynnau eu llunio gan ddefnyddio preswylwyr arferol yn y DU yn unig. At ddibenion Cyfrifiad 2011, mae preswylydd arferol yn y DU yn unrhyw un a oedd, ar ddiwrnod y cyfrifiad, yn y DU ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y DU am 12 mis neu fwy, neu oedd â chyfeiriad parhaol yn y DU ac a oedd y tu allan i'r DU ac yn bwriadu bod y tu allan i'r DU am lai na 12 mis.

Rheoli Datgelu Ystadegol
Mae cyfrinachedd gwybodaeth bersonol o'r cyfrifiad yn hollbwysig, felly er mwyn atal gwybodaeth am unigolion y gellir eu hadnabod rhag cael ei datgelu mewn camgymeriad, defnyddir amrywiaeth o fesurau diogelu datgelu ystadegol. Yn gyntaf, caiff cofnodion yn y gronfa ddata allbwn eu cyfnewid rhwng ardaloedd daearyddol gwahanol. Mae'r gwaith cyfnewid hwn yn targedu'r cartrefi hynny mewn ardaloedd bach â nodweddion anarferol y gellir eu hadnabod. Er mwyn diogelu ymhellach rhag datgelu gwybodaeth bersonol, rhoddwyd rhywfaint o gyfyngiadau hefyd ar fanyldeb y canlyniadau a gyhoeddir, yn arbennig mewn tablau ar gyfer poblogaethau bach. Mae hefyd drothwyon gofynnol ar gyfer nifer y bobl a chartrefi y mae'n rhaid eu cael yn yr ardaloedd lleiaf y gellir cyhoeddi setiau o ganlyniadau ar eu cyfer.

Gweld holl dablau'r cyhoeddiad hwn yn adran ddata'r cyhoeddiad .
Cynnwys gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
© Hawlfraint y Goron yn gymwys oni nodir yn wahanol.