Denise McGregor
Cyfrifiad 2011
census.customerservices@ons.gsi.gov.uk
Ffôn: +44(0)1329 444221
Categorïau: People and Places, Population
Amlder datgan: Bob deng mlynedd
Iaith: Cymraeg
Cwmpas daearyddol: Cymru
Dadansoddiad Daearyddol: Awdurdod Lleol/Sir
Enw(au)'r arolwg: Cyfrifiad
Y cyhoeddiad hwn, Amcangyfrifon o'r Boblogaeth a Chartrefi ar gyfer Cymru yng Nghyfrifiad 2011, yw'r datganiad cyntaf o ystadegau i gael eu cyhoeddi o'r cyfrifiad fel yr oedd ar 27 Mawrth 2011, ac mae wedi'i gyhoeddi ar y cyd ag Amcangyfrifon o'r Boblogaeth a Chartrefi ar gyfer Cymru a Lloegr yng Nghyfrifiad 2011.
Mae'r datganiad yn disgrifio poblogaeth breswyl arferol Cymru yn ôl oedran a rhyw, gan hefyd roi gwybodaeth am bynciau fel nifer y cartrefi a dwysedd poblogaeth ar noson y cyfrifiad.
Mae canlyniadau ar gael ar gyfer Cymru ac awdurdodau unedol cyfansoddol.
Caiff yr ystadegau yn y datganiad hwn eu defnyddio fel sail i'r amcangyfrifon o'r boblogaeth ganol blwyddyn 2011 y disgwylir iddynt gael eu rhyddhau ym mis Medi 2012. Caiff yr amcangyfrifon ganol blwyddyn o'r boblogaeth rhwng 2002 a 2010 ei hail-lunio, maes o law, ar sail yr hyn a wyddom nawr o Gyfrifiad 2011.
Caiff rhagor o ganlyniadau o'r cyfrifiad eu rhyddhau yn nes ymlaen yn y flwyddyn, a bydd SYG yn llunio ac yn cyhoeddi ystadegau ar gyfer y DU gyfan ar ôl i bob un o dair swyddfa'r cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyhoeddi'r data perthnasol.
Mae gwybodaeth am y termau a ddefnyddir yn y datganiad hwn i'w gweld yn y Diffiniadau a'r wybodaeth ategol (ar gael yn Saesneg yn unig).
Mae rhagor o wybodaeth am addasrwydd diben yr ystadegau yn y datganiad hwn i'w gweld yn y papur Gwybodaeth am Sicrwydd a Methodoleg (152.8 Kb Pdf) (ar gael yn Saesneg yn unig).
Gwybodaeth ddefnyddiol arall:
Pyramidiau rhyngweithiol o'r boblogaeth (ar gael yn Saesneg yn unig)
Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi ar gyfer Cymru a Lloegr yng Nghyfrifiad 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig)
Esbonio'r gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 a'r amcangyfrifon o'r boblogaeth a ddygwyd ymlaen (152.8 Kb Pdf) (ar gael yn Saesneg yn unig)
Amcangyfrifon o'r boblogaeth ar gyfer y DU, Cymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (ar gael yn Saesneg yn unig)
Canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2001 ar y boblogaeth yng Nghymru (ar gael yn Saesneg yn unig)
Prosbectws Cyfrifiad 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig)
Geirfa Cyfrifad 2011 (ar gael yn Saesneg yn unig)
Caiff yr Ystadegau Gwladol hyn eu cynhyrchu yn unol â safonau proffesiynol uchel a'u rhyddhau yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.