Outputs that use this data
Summaries
-
Cyfrifiad 2011 - Rhagair gan yr Ystadegydd Gwladol
16-Jul-2012Rhagair cryno i ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2011 - Amcangyfrifon o boblogaeth a chartrefi Cymru a Lloegr - gan yr Ystadegydd Gwladol.
Publications
-
Adroddiad - Amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 heb eu talgrynnu o'r boblogaeth a chartrefi ar gyfer Cymru
24-Sep-2012Adroddiad yn rhoi gwybodaeth gefndirol i gyd-fynd â rhyddhau amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 heb eu talgrynnu o'r boblogaeth a chartrefi ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ar 24 Medi 2012. Mae'r adroddiad yn nodi'r camau prosesu ychwanegol a gymerwyd ers rhyddhau'r gyfres gyntaf o amcangyfrifon y cyfrifiad wedi'u talgrynnu ym mis Gorffennaf 2012, y gwahaniaethau rhwng y setiau hyn o amcangyfrifon y cyfrifiad wedi'u talgrynnu a heb eu talgrynnu, a chysondeb yr amcangyfrifon hyn ag amcangyfrifon o'r boblogaeth canol 2011.
-
Cwestiynau Cyffredin - Amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 heb eu talgrynnu o'r boblogaeth a chartrefi ar gyfer Cymru
24-Sep-2012Cwestiynau Cyffredin yn rhoi gwybodaeth gefndirol i gyd-fynd â rhyddhau amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 heb eu talgrynnu o'r boblogaeth a chartrefi ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ar 24 Medi 2012. Mae'r atebion i'r cwestiynau a restrir yn cwmpasu'r broses dalgrynnu a ddefnyddiwyd ar gyfer amcangyfrifon y cyfrifiad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2012 a'r camau prosesu ychwanegol a gymerwyd ers cyhoeddi'r amcangyfrifon hynny wedi'u talgrynnu. Maent hefyd yn rhoi gwybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y setiau o amcangyfrifon y cyfrifiad wedi'u talgrynnu a heb eu talgrynnu, cysondeb yr amcangyfrifon hyn ag amcangyfrifon o'r boblogaeth canol 2011, a ble i ddod o hyd i wybodaeth am y gyfres nesaf o ganlyniadau'r cyfrifiad.
-
Cyfrifiad 2011 – Amcangyfrifon o Boblogaeth a Chartrefi Cymru, Mawrth 2011
16-Jul-2012Mae'r bwletin hwn, sef Amcangyfrifon o Boblogaeth a Chartrefi Cymru Cyfrifiad 2011, yn cyflwyno'r gyfres gyntaf o ystadegau o Gyfrifiad 2011. Mae'n disgrifio'r boblogaeth sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn ôl oedran a rhyw, ac mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am bynciau fel nifer y cartrefi a dwysedd poblogaeth.
-
Cyfrifiad 2011 - Rhestr mynediad cyn rhyddhau data (Cymru)
16-Jul-2012Rhestr mynediad cyn rhyddhau data ar gyfer Cyfrifiad 2011
Data
dataset icon (
) indicates data that can be customised before downloading
) indicates data that can be customised before downloading -
Cyfrifiad 2011: QS213EW Gwlad enedigol (estynedig), Cymru
26-Mar-2013Mae'r tabl hwn yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 sy'n dosbarthu'r boblogaeth breswyl arferol ar ddiwrnod y cyfrifiad (27 Mawrth 2011) yn ôl gwlad enedigol. Mae'r dosbarthiad gwlad enedigol a ddefnyddir yn y tabl hwn yn ddosbarthiad 215 categori estynedig sy'n rhoi mwy o fanylion na thabl Ystadegau Cyflym QS203. Mae'r tabl yn cynnwys data ar gyfer Cymru yn unig.
-
Cyfrifiad 2011: QS101EW Y math o breswylfa, awdurdodau unedol yng Nghymru
30-Jan-2013Mae'r tabl hwn yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 o nifer y preswylwyr arferol sy'n byw mewn cartrefi ac mewn sefydliadau cymunedol, ar gyfer awdurdodau unedol yng Nghymru ar ddiwrnod y cyfrifiad (27 Mawrth 2011).
-
Cyfrifiad 2011: QS103EW Oedran fesul blwyddyn unigol, awdurdodau unedol yng Nghymru
30-Jan-2013Mae'r tabl hwn yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 o'r boblogaeth breswyl arferol yn ôl blwyddyn oedran unigol, ar gyfer awdurdodau unedol yng Nghymru ar ddiwrnod y cyfrifiad (27 Mawrth 2011).
-
Cyfrifiad 2011: QS104EW Rhyw, awdurdodau unedol yng Nghymru
30-Jan-2013Mae'r tabl hwn yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 sy'n dosbarthu'r boblogaeth breswyl arferol yn ôl rhyw, ar gyfer awdurdodau unedol yng Nghymru ar ddiwrnod y cyfrifiad (27 Mawrth 2011).