Cwestiynau Arfaethedig am Iaith

Cyhoeddwyd y cynigion ar gyfer Cyfrifiad 2011 yn y Papur Gwyn ‘Helpu i lunio’r dyfodol’ ym mis Rhagfyr 2008. Roedd y cynigion hyn yn cynnwys cyflwyno dau gwestiwn newydd am iaith. Yng Nghymru, bydd y Cyfrifiad yn parhau i gasglu gwybodaeth am nifer y bobl sy’n gallu deall, siarad, darllen ac ysgrifennu’r Gymraeg. Gwneir hyn er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu polisïau ac at ddibenion monitro.

Pennwyd y cwestiynau arfaethedig ar ddiwedd proses dair blynedd ddwys o waith ymgynghori ag amrywiaeth eang o ddefnyddwyr data’r cyfrifiad.

Bydd y cyntaf o’r cwestiynau newydd am iaith yn casglu gwybodaeth am brif iaith pobl. Bydd yr ail gwestiwn yn casglu gwybodaeth am ruglder yn y Saesneg, ond dim ond ar gyfer y bobl hynny nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt (neu’r Gymraeg/Saesneg yng Nghymru).

Diben y ddau gwestiwn arfaethedig am iaith yw helpu darparwyr gwasanaethau i ddeall pa gyfleusterau cymorth iaith y mae angen iddynt eu darparu. Ar gyfer y rhai hynny na allant siarad Saesneg (na’r Gymraeg yng Nghymru), bydd y Cyfrifiad yn rhoi gwybodaeth am y prif ieithoedd maent yn eu siarad. Bydd hyn yn helpu i nodi pa ieithoedd dylai gael eu hystyried pan fo darparwyr gwasanaethau’n argraffu dogfennau neu’n cynnig llinellau ymholiadau ffôn.

Bydd y cwestiynau am iaith, a chwestiynau eraill am hunaniaeth genedlaethol, ethnigrwydd a chrefydd, yn cynnig gwybodaeth helaeth a fydd yn helpu i gynllunio a monitro gwasanaethau lleol a chenedlaethol yn fwy effeithiol.