Segensworth Road
Titchfield
Fareham
PO15 5RR
Ble ydym ni?
Mae safle Titchfield y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) tua milltir y tu allan i bentref Titchfield, sydd hanner ffordd rhwng Portsmouth a Southampton ar arfordir de Lloegr. Mae’r safle 10 erw yn gyn-ganolfan balŵn amddiffyn amser rhyfel y Llu Awyr Brenhinol.
Beth ydym yn ei wneud?
Mae gwaith swyddfeydd Titchfield yn canolbwyntio ar boblogaeth, demograffeg, daearyddiaeth, ac ystadegau rhanbarthol a lleol. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am y cyfrifiad poblogaeth bob deng mlynedd.
Fel yn y rhan fwyaf o sefydliadau, mae’r SYG yn cynnig cyfleoedd ar amrywiaeth o lefelau – o rolau gweinyddol i uwch-reolwyr. Mewn unrhyw rôl, gallech eich cael eich hun yn delio â chwsmeriaid, sy’n cynnwys y cyhoedd, academyddion, busnesau, y wasg genedlaethol ac adrannau eraill y llywodraeth.
Beth arall sydd ar y safle?
Mae gan y safle swyddfeydd cynllun agored, bwyty, siop a digonedd o leoedd parcio i’r holl staff.
Mae cynllun chwarae yn ystod y gwyliau i blant rhwng pump a 12 oed, a chlwb cymdeithasol sy’n trefnu gweithgareddau fel gwibdeithiau dydd a phenwythnos.
Mae cyfleusterau iechyd hefyd gan gynnwys campfa, dosbarthiadau ymarfer corff rheolaidd, ioga ac adweitheg.
Sut i ddod o hyd i ni
Ar y ffordd
Gadewch yr M27 ar Gyffordd 9 a dilynwch yr arwyddion am yr A27 (Fareham). Ar y gylchfan nesaf, cymerwch yr allanfa gyntaf i Barnswallace Road. Ar y gylchfan nesaf cymerwch y 3ydd allanfa i Witherbed Lane. Ar y gyffordd, trowch i’r chwith. Mae arwyddion i’r swyddfa ac mae wedi’i lleoli ar y dde.
Ar y trên
Swanwick yw’r orsaf agosaf, ond mae’r trenau’n anghyson. Mae prif orsafoedd trenau Fareham a Southampton Airport Parkway bedair a 10 milltir i ffwrdd yn y drefn honno. Mae tacsis ar gael y tu allan i’r gorsafoedd.
Ar y bws
Mae gwasanaeth rhif 26 (Fareham i Hedge End a’r ffordd arall) yn mynd heibio i’r swyddfa bob awr.