1 Drummond Gate
Llundain
SW1V 2QQ
Ble ydym ni?
Mae safle Llundain y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi’I leoli yn Drummond Gate yn ardal Pimlico, sy’n agos at Arglawdd Tafwys, Abaty San Steffan a Dau Dŷ'r Senedd. Mae bwytai, siopau a theatrau niferus yn gyfagos, tra bod ardaloedd siopa ac adloniant megis Oxford Circus a Covent Garden o fewn cyrraedd hawdd ar y Tiwb.
Beth ydym yn ei wneud?
Mae Drummond Gate yn gartref i Wasanaeth Ymgynghori Methodoleg ac Awdurdod Ystadegau'r DU.
Beth arall sydd ar y safle?
Mae gan y safle swyddfeydd cynllun agored, peiriant gwerthu ynghyd â chyfleusterau cawod a maes parcio bach, er bod lle yn gyfyngedig.
Sut I ddod o hyd i ni
Ar y ffordd
Mae’r swyddfa ar gornel Vauxhall Bridge Road a Drummond Gate. Mae gennym nifer cyfyngedig o fannau parcio all gael eu harchebu ymlaen llaw drwy ffonio'r swyddfa ar 01633 456060.
Ar y trên
Ar y bws
Mae nifer o lwybrau bws yn rhedeg heibio’r swyddfa, gan gynnwys y 2, 24, 36, 185, 360, 436 a C10.