Heol Caerdydd
Casnewydd
De Cymru
NP10 8XG
Ble ydym ni?
Mae safle Casnewydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) tua dwy filltir y tu allan i ganol dinas Casnewydd, wedi’i leoli mewn ardal braf ger plasty a pharc Tŷ Tredegar. Mae Casnewydd yn un o ddinasoedd mwyaf newydd y DU ac mae’n borth i Dde Cymru.
Beth ydym yn ei wneud?
Swyddfa Casnewydd yw pencadlys corfforaethol y SYG. Mae’r gwaith yma yn canolbwyntio ar gasglu a dadansoddi ystadegau economaidd, gyda phwyslais cynyddol ar ddata cymdeithasol. Mae ystod o wasanaethau corfforaethol, fel Adnoddau Dynol, Rheoli Gwybodaeth, Cyfathrebu a Chyllid wedi’u lleoli yma hefyd.
Fel yn y rhan fwyaf o sefydliadau, mae’r SYG yn cynnig cyfleoedd ar amrywiaeth o lefelau – o rolau gweinyddol i uwch-reolwyr. Mewn unrhyw rôl, gallech eich cael eich hun yn delio â chwsmeriaid, sy’n cynnwys y cyhoedd, academyddion, busnesau, y wasg genedlaethol ac adrannau eraill y llywodraeth.
Pa gyfleusterau sydd ar y safle?
Mae gan y safle swyddfeydd cynllun agored, y mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u haerdymheru, a chyfleusterau arlwyo helaeth gan gynnwys bwyty, siop a lolfa goffi. Mae sawl maes parcio, sy’n darparu digonedd o leoedd parcio i’r holl staff.
Mae meithrinfa breifat ar y safle i blant rhwng tri mis a phedair oed, a chynllun chwarae cymorthdaledig yn ystod gwyliau ysgol i blant gweithwyr rhwng pump a 13 oed.
Mae cyfleusterau iechyd hefyd gan gynnwys campfa, dosbarthiadau ioga a thylino.
Sut i ddod o hyd i ni
Ar y ffordd
Gadewch draffordd yr M4 ar Gyffordd 28. Ar y gylchfan, cymerwch yr allanfa ag arwyddion i’r 'A48 Casnewydd'. Ar y gylchfan nesaf, cymerwch y bedwaredd allanfa i’r SYG.
Ar y trên
Yr orsaf drenau agosaf yw Casnewydd. Mae tacsis ar gael y tu allan i’r orsaf.
Ar y bws
Gwasanaeth 30, 31A, 37, X15 a X18 o orsaf fysiau Casnewydd i Barc Tredegar.