Skip to content

Hygyrchedd

Nodweddion hygyrchedd

Cynlluniau gwylio

Mae'r wefan hon yn cynnig tri chynllun gwylio gwahanol, y gellir eu cyrchu drwy ddefnyddio'r rheolyddion yn y pennawd ar frig pob tudalen. Cynrychiolir y rheolyddion hyn yn weledol fel tri blwch gyda'r llythyren A (a ddangosir isod) neu gyda'r disgrifiadau canlynol:

  1. Cynllun rhagosodedig

  2. Cynllun dyslecsia

  3. Cynllun clir

Accessibility logo
Nodweddion y porwr

Yn dibynnu ar ba borwr a ddefnyddir gennych, gallwch ddefnyddio nifer o nodweddion eraill i'ch helpu i gyrchu deunydd ar-lein yn haws. I weld y wybodaeth ddiweddaraf ewch i wefan My Web My Way y BBC.

Datganiad hygyrchedd

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn ymrwymedig i sicrhau bod ystod mor eang â phosibl o bobl yn gallu cyrchu'r wefan hon. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau am hygyrchedd y wefan hon, neu os byddwch chi'n cael unrhyw anhawster wrth ddefnyddio unrhyw ran ohoni, cysylltwch â ni. Rydym yn croesawu eich adborth.

Cynlluniwyd y wefan hon i gyflawni Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We Menter Hygyrchedd y We (WCAG WAI) safon AA fersiwn 1.0, sef yr hyn a argymhellir gan Lywodraeth y DU ar hyn o bryd. Dim ond y cynnwys sy'n rhan benodol o wefan y SYG y mae'r SYG yn gyfrifol amdano. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys na diogelwch cynnwys arall, felly os byddwch yn clicio ar unrhyw ddolen, gwnewch hynny ar eich menter eich hun.

Mae'r wefan hon yn cynnwys cryn dipyn o ddeunydd a etifeddwyd o wefan flaenorol y SYG. Nid yw'r holl gynnwys hyn yn hygyrch i safon AA fersiwn 1.0 WCAG WAI, ac ni fyddai gwneud yr holl ddeunydd hyn yn hygyrch yn ôl-weithredol yn gwneud defnydd effeithiol o'n hadnoddau. Rydym yn monitro'r dogfennau a gyrchir amlaf sydd yn y categori hwn, ac yn dechrau rhaglen o drosi'r dogfennau hyn i mewn i fformat hygyrch.

Ar adegau bydd y SYG yn defnyddio dulliau o gyflwyno data a dadansoddiadau ar-lein nad ydynt yn hygyrch i safon AA fersiwn 1.0 WCAG WAI er mwyn cynorthwyo dehongli a gwella hygyrchedd ar gyfer rhai grwpiau o ddefnyddwyr. Pan fyddwn yn gwneud hyn, byddwn yn cymryd pob cam posibl i sicrhau bod fersiwn amgen ar gael mewn fformat hygyrch sy'n bodloni'r safon. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys darparu trawsgrifiad ar gyfer deunydd fideo neu sain neu ddarparu lawrlwythiad data i ddarparu'r data a ddefnyddiwyd mewn cyflwyniad animeiddiedig.

Mae manylion pellach am hygyrchedd ar gael yn ein Polisi Hygyrchedd

Cynnwys gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
© Hawlfraint y Goron yn gymwys oni nodir yn wahanol.