Hawlfraint y Goron
Mae'r holl ddeunydd sy'n ymddangos ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi'i ddiogelu gan Hawlfraint y Goron oni nodir fel arall.
Atgynhyrchu deunyddiau'r SYG
O dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored a Fframwaith Trwyddedu Llywodraeth y DU (a lansiwyd ar 30 Medi 2010), gall unrhyw un sydd am ddefnyddio neu ailddefnyddio deunydd y SYG, p'un ai'n fasnachol neu'n breifat, wneud hynny'n rhydd heb wneud cais penodol am drwydded, o dan amodau'r Drwydded Llywodraeth Agored a'r Fframwaith.
Mae'r trefniadau newydd hyn yn disodli'r Trwyddedau Clicio-Defnyddio a'r Trwyddedau Gwerth Ychwanegol blaenorol. Am ragor o wybodaeth, dilynwch y dolenni uchod, ffoniwch 020 8876 3444 neu anfonwch neges e-bost i psi@nationalarchives.gsi.gov.uk
Dylai defnyddwyr sy'n atgynhyrchu deunydd y SYG heb ei addasu gydnabod y SYG fel y ffynhonnell - Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi'i thrwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored fersiwn.1.0
Dylai defnyddwyr sy'n atgynhyrchu cynnwys y SYG wedi'i addasu gydnabod y SYG fel y ffynhonnell - Addaswyd o ddata o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi'i thrwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored fersiwn.1.0.
Hawlfraint trydydd parti
Ni estynnir y caniatâd i atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan y Goron i unrhyw ddeunydd ar y wefan hon a nodir ei fod wedi'i gynhyrchu gan drydydd parti. Rhaid cael awdurdod i atgynhyrchu'r fath ddeunydd gan y deiliaid hawlfraint dan sylw.
Cyfrinachedd
Mae cynhyrchion y Cyfrifiad yn cynnwys mesurau diogelu i atal unrhyw unigolyn neu gartref rhag cael ei adnabod. Rhaid i'r prynwr beidio â defnyddio cynhyrchion i gael neu darddu gwybodaeth sy'n ymwneud yn benodol ag unigolyn neu gartref penodol, a rhaid iddo beidio â hawlio iddo gael neu darddu gwybodaeth o'r fath.
Mapiau
Dylid defnyddio'r datganiad isod wrth atgynhyrchu mapiau o ddeunydd y SYG:
(h) Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata [year of supply] Arolwg Ordnans 100019153
Ceir rhagor o wybodaeth am y trefniadau hawlfraint sy'n ymwneud â mapiau yma
Hyperddolenni i wefan y SYG
Nid oes angen unrhyw ganiatâd i gynnwys hyperddolenni i wefan y SYG.