TG102 a PAS 78: gofynion o ran polisïau hygyrchedd
Yn ôl TG102:
11. Rhaid i bolisi hygyrchedd wneud y canlynol:
-
dangos ymwybyddiaeth o anabledd;
-
egluro sut y caiff defnyddwyr anabl eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu'r wefan;
-
datgan y lefel gydymffurfiaeth W3C i'w chynnal;
-
cynllunio sut y cynhelir y lefel hygyrchedd dros amser.
12. Bydd y broses ar gyfer cynnal hygyrchedd y wefan bob amser yn cynnwys:
-
disgrifiad o boblogaeth y defnyddwyr targed;
-
y tasgau craidd y dylai defnyddwyr allu eu cyflawni;
-
dadansoddiad o anghenion defnyddwyr;
-
y camau a gymerwyd i ddiwallu'r anghenion hynny;
-
gwerthusiad o ba mor llwyddiannus yw'r safle o ran diwallu'r anghenion hynny.
13. Os oes rhannau o'r wefan sy'n peri problemau posibl i ddefnyddwyr sydd â namau penodol, dylai polisi hygyrchedd gynnwys y canlynol:
-
sut yr eir i'r afael â'r problemau posibl o ran hygyrchedd;
-
faint o amser y bydd yn debygol o gymryd i ddatrys y broblem;
-
sut y gellir cael gafael ar y gwasanaeth drwy ddulliau amgen;
-
pwy i gysylltu â hwy os oes problem benodol.
Yn ôl PAS 78:
6.2.4 Dylai cynnwys y polisi hygyrchedd gynnwys y canlynol:
a) Disgrifiad o'r defnyddwyr anabl i ymgynghori â hwy wrth ddatblygu'r wefan (gweler Atodiad A i weld proffiliau defnyddwyr).
b) Eglurhad o'r tasgau craidd y dylai defnyddwyr allu eu cyflawni ar y safle e.e. prynu llyfr a'r meini prawf ar gyfer pennu llwyddiant (gweler Atodiad B).
c) Disgrifiad o'r broses i'w defnyddio i ddatblygu a chynnal a chadw cynnwys er mwyn diwallu anghenion y defnyddwyr hyn, yn cynnwys:
-
nodi anghenion defnyddwyr
-
datblygu'r wefan i ddiwallu'r anghenion hynny
-
mesur perfformiad y wefan o ran diwallu'r anghenion hynny.
ch) Manylion y lefel hygyrchedd i'w chynnal (e.e. 'cydymffurfio â W3C AA fersiwn 1.0 WCAG WAI').
d) Os yw rhan neu elfen o'r wefan nad yw'n debygol o fod yn hygyrch i bobl gyda namau penodol, dylid egluro'r canlynol:
-
unrhyw atgyweiriadau sydd i'w gwneud i wella hygyrchedd, ynghyd ag amcangyfrif rhesymol o bryd y cyflawnir yr atgyweiriadau,
-
sut y gall pobl anabl gael gafael ar y wybodaeth hon neu'r gwasanaethau hyn drwy ddulliau amgen.
dd) os nad yw d) 1. neu d) 2. yn bosibl, eglurhad o pam y tybir ei bod yn rhesymol i'r adran barhau i fod yn anhygyrch.
D.S. Tynnir sylw at ‘Code of Practice – Rights of Access, Goods, Facilities, Services and Premises’ y Comisiwn Hawliau Anabledd.
e) Manylion cyswllt (e.e. cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, rhif ffôn, rhif ffôn testun a typetalk) er mwyn gofyn am ragor o wybodaeth am y polisi hygyrchedd.
D.S. Darperir cyngor ar ddarparu cyfleusterau ffôn testun gan RNID (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw).
f) Darpariaeth er mwyn i ddefnyddwyr gyflwyno awgrymiadau, sylwadau a chwynion i gomisiynydd y wefan.