Fel unrhyw sefydliad arall, mae angen arian ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i weithredu. Mae angen iddi dalu costau cyflogau, golau, gwres, cyflenwyr ac offer.
Mae’r rhan fwyaf o’r cyllid ar gyfer y SYG yn cael ei glustnodi, fel y mwyafrif o adrannau eraill y llywodraeth, drwy broses yr Adolygiad o Wariant. Mae hwn yn cael ei weinyddu ar ran y Llywodraeth gan y Trysorlys. Roedd yr Adolygiad o Wariant diwethaf, a gwblhawyd yn 2007, yn gofyn i adrannau gynnal adolygiad cynhwysfawr o’u gwaith ac, o fewn y disgwyliadau gwerth am arian a osodwyd gan weinidogion, cyfiawnhau eu gofynion cyllid ar gyfer y cyfnod 2008-09 i 2010-11.
Er mwyn cydnabod y newid yn statws y SYG yn dilyn annibyniaeth o 1 Ebrill 2008, roedd ei setliad cyllid yn cwmpasu’r cyfnod tan 2011-12. Ar gyfer y cyfnod pum mlynedd 2007-08 i 2011-12, swm y cyllid yw £1.2 biliwn. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn derbyn swm bach o incwm ychwanegol, yn bennaf gan adrannau eraill y llywodraeth.