Pwy ydym ni

Cyflwyniad

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yw swyddfa weithredol Awdurdod Ystadegau’r DU, adran anweinidogol sy’n adrodd yn uniongyrchol i’r Senedd. Y SYG yw cynhyrchydd ystadegau unigol mwyaf Llywodraeth y DU. Mae’n gweithredu fel:

  • swyddfa’r Ystadegydd Gwladol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr Awdurdod Ystadegau’r DU ac yn brif ymgynghorydd ystadegol
  • Sefydliad Ystadegau Gwladol y DU (neu NSI – i ddefnyddio terminoleg Ewropeaidd), a 
  • 'Phrif Swyddfa' Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GYLl)

Rheolaeth

Mae’r SYG yn gweithredu dan ddwy lefel o reolaeth.

  • darperir goruchwyliaeth strategol gan yr Awdurdod Ystadegau
  • y Grŵp Rheoli Gweithredol (GRhG) sy’n gyfrifol am reolaeth o ddydd i ddydd

Cyllideb, Staffio a Lleoliad

  • yn 2006/07 daeth cyfanswm cyllideb y SYG i bron £200 miliwn
  •  mae’r SYG yn cyflogi tua 3,900 o staff (y mae 1,300 ohonynt yn staff maes sy’n casglu gwybodaeth ar gyfer arolygon cymdeithasol). Mae’r cyfanswm hwn yn cynnwys 250 aelod o’r 'Grŵp Ystadegwyr' o fewn GYLl, yn ogystal â dros 200 aelod o Wasanaeth Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (YGLl)
  • mae’r SYG yn gweithredu o dri phrif safle – o’i phencadlys corfforaethol yng Nghasnewydd yn Ne Cymru, o Titchfield, ger Portsmouth yn Hampshire, ac o’i swyddfeydd yn Myddelton Street yn Llundain

Cefndir Hanesyddol

Crëwyd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym 1996 drwy gyfuno’r Swyddfa Ystadegau Canolog (SYC) – a grëwyd gan y Prif Weinidog ar y pryd, Winston Churchill, ym 1941 i gynorthwyo ymdrech y rhyfel – a’r Swyddfa Cyfrifiadau ac Arolygon Poblogaeth (SCAP) – a grëwyd ym 1970 gan Gyfarwyddwr y SYC.