Ein hegwyddorion strategol
Er mwyn cyflawni gweledigaeth y SYG, ein strategaeth yw trawsnewid ein busnes ystadegol drwy roi ffocws clir ar bobl a chefnogi’r arloesi sydd ei angen. Mae’r dudalen hon yn disgrifio’r egwyddorion strategol allweddol y byddwn yn eu defnyddio wrth droi’r weledigaeth yn realiti.
Busnes ystadegol uchel ei berfformiad
Bydd y galw am ystadegau SYG o ansawdd uchel yn parhau i gynyddu ac mae’r adnoddau i ateb y galw hwn yn gyfyngedig. Er mwyn cwrdd â’r her hon byddwn yn gwella’n perfformiad ar draws pob rhan o’r busnes:
Byddwn yn:
- gweithio mewn partneriaeth â’n cwsmeriaid allweddol i ddeall eu hanghenion presennol ac yn y dyfodol
- cyflwyno rhaglen waith ystadegol wedi’i blaenoriaethu sy’n esblygu i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid ac sy’n adlewyrchu’r DU wrth iddi newid. Mae’n bosibl y bydd angen i weithgarwch blaenoriaeth is wneud lle i roi sylw i alwadau newydd
- neilltuo cyfran fwy o adnoddau i ychwanegu gwerth drwy ddadansoddi ein data, gwella hygyrchedd a chynhyrchu adroddiadau sy’n hawdd eu darllen
- ymgymryd â gwaith casglu data o ansawdd uchel, gan bwysleisio gwell effeithlonrwydd drwy ddefnyddio data gweinyddol, cynllun arolygon wedi’i symleiddio a datblygu dulliau casglu
- safoni ein prosesau, systemau, ac offer lle mae buddion busnes o wneud hynny
-
cryfhau’r ffordd y mae ein cyfarwyddiaethau ystadegol a’n gwasanaethau corfforaethol yn cydweithio
Arweiniad ystadegol
Bydd annibyniaeth yn cynyddu amlygrwydd y SYG.
Byddwn yn:
- gweithio gyda phartneriaid i wella ymddiriedaeth mewn ystadegau
- sefydlu safonau ystadegol ac arfer gorau er mwyn darparu fframwaith ar gyfer cynhyrchu ystadegau swyddogol o ansawdd
- cyfranogwyr gweithredol yng ngweithgareddau ystadegol allweddol yr Undeb Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a sefydliadau rhyngwladol eraill
-
cynnal cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol gyda chynhyrchwyr ystadegau eraill er mwyn hyrwyddo ein harferion gorau ein hunain a dysgu oddi wrth eraill
Ffocws clir ar bobl
Yn ein hamgylchedd sy’n newid yn gyson, bydd ein gallu i wneud penderfyniadau anodd, rheoli newid, ac arwain, rheoli a chefnogi eraill yn hanfodol i’n llwyddiant.
Byddwn yn:
- gwella ein polisïau a’n harferion ar gyfer gweithwyr er mwyn caniatáu i ni gadw a recriwtio’r staff sydd eu hangen arnom
- datblygu ein sgiliau a’n cymwyseddau er mwyn ymgymryd â’n rolau yn fwy effeithiol a’n galluogi i gofleidio a chyflawni newid yn well
- datblygu ein galluoedd er mwyn darparu’r cymysgedd iawn o arbenigedd i gyflawni’r busnes
- cydnabod y rheini sy’n cynnal ein gwerthoedd
- cydnabod gwerth a phwysigrwydd gweithlu amrywiol sy’n teimlo bod ei gyfraniad yn cael ei werthfawrogi
- trin pobl â pharch ac urddas
-
cyfathrebu’n fwy effeithiol, ymgysylltu’n llawnach, gwrando a cheisio adborth
Arwain pobl
Bydd arweiniad cryf yn hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth.
Bydd pob rheolwr yn y sefydliad yn:
- adeiladu timau effeithiol, annog talent, ysgogi unigolion a hyrwyddo amrywiaeth
- atebol yn bersonol, yn gweithredu’n gorfforaethol ac yn cyflawni canlyniadau
- cyfathrebu’n agored, yn dryloyw, gyda gwrthrychedd a chysondeb, pa un a yw’r newyddion yn dda neu’n ddrwg
- ceisio gwella gweithrediadau busnes, drwy ddefnyddio adnoddau a thechnoleg yn well, a phrosesau gwell
-
darparu arweiniad effeithiol, gan roi cyfarwyddyd clir, gosod amcanion, delio gyda sefyllfaoedd anodd a hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio
Arloesi a dargedir
Mae arloesi yn hanfodol er mwyn i ni ffynnu mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae’n rhaid i ni adolygu’r hyn yr ydym yn ei gynhyrchu’n gyson, a sut yr ydym yn ei gynhyrchu.
Byddwn yn:
- canolbwyntio ar arloesi sy’n cynhyrchu arbedion ariannol i’w hailfuddsoddi i ateb galwadau newydd, neu sy’n adeiladu ar ansawdd ein hallbynnau
- adeiladu fframwaith i annog a chyflawni arloesi, gan glustnodi cyfran o’n cyllideb ar gyfer datblygiadau newydd
- annog cyflwyno syniadau a chryfhau’r sgiliau sydd eu hangen i droi syniadau arloesol yn fuddion busnes
-
gweithio gyda phartneriaid sy’n gallu ychwanegu at ein gwybodaeth