Ein gweledigaeth a’n gwerthoedd

Ein cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw gwella dealltwriaeth o fywyd yn y Deyrnas Unedig a galluogi penderfyniadau gwybodus drwy ystadegau a dadansoddiad dibynadwy, perthnasol ac annibynnol.

Ein gweledigaeth hyd 2012

Wrth galon y gwaith o wneud penderfyniadau a ffurfio barn, byddwn yn lle o fri i weithio, yn arweinydd byd, yn arloesol, yn barod ar gyfer newid ac yn cyflawni mwy gyda llai. Bydd gwelliannau parhaus i’n systemau yn caniatáu rhagor o ddadansoddiad tra’n cynnal ansawdd uchel ein hystadegau.

Ein gwerthoedd

Credwn fod gan bawb yn y SYG ran i’w chwarae wrth gyflawni’r weledigaeth hon. Rydym am i weithwyr presennol ac yn y dyfodol ein hystyried yn gyflogwr o fri gydag enw da yn fyd-eang – yn arloesol, yn barod ar gyfer newid ac yn cynhyrchu ystadegau o ansawdd uchel.

Mae’r SYG wedi gosod ei gwerthoedd sefydliadol ei hun, sy’n ganolog i gyflawni ein gwaith. Mae’r gwerthoedd hyn yn ymwneud ag ansawdd y gwaith yr ydym yn ei gyflawni ac ymddygiad ein gweithwyr. Ein gwerthoedd craidd yw uniondeb, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd. Rydym yn ymgorffori’r gwerthoedd hyn yn y ffyrdd canlynol.

Ymrwymiad:

  • rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu ystadegau o ansawdd uchel a dadansoddiad trylwyr o’r ystadegau hyn
  • rydym wedi ymrwymo i osod a chynnal y safonau proffesiynol uchaf yn ein gwaith
  • rydym yn sicrhau bod data’n cael ei gadw’n gyfrinachol lle bo angen
  • rydym yn cyfathrebu’n agored gyda chydweithwyr o fewn y SYG ac ar draws llywodraeth, a chyda phartïon eraill lle bo’n briodol
  • rydym yn annog pob aelod o staff i gymryd cyfrifoldeb personol am ansawdd eu gwaith. Rydym yn ymrwymo i ddatblygu sgiliau unigolion a’r sefydliad yn ei gyfanrwydd er mwyn cwrdd â heriau’r dyfodol

Hyblygrwydd:

  • rydym yn deall yr amgylchedd ehangach yr ydym yn gweithredu ynddo ac yn sicrhau fel sefydliad ein bod yn gallu addasu i gyflawni’r hyn a fynnir gennym
  • rydym yn ystyried newid yn gyfle ar gyfer datblygiad ac rydym yn ceisio cyflwyno gwelliannau i’n gwaith yn barhaus
  • rydym yn gweithio’n agos gyda’n cwsmeriaid i ddeall eu hanghenion newidiol a chwrdd â’u gofynion

Parch:

  • rydym wedi ymrwymo i leihau’r baich ar gyflenwyr ein data, pa un a ydynt yn unigolion preifat neu’n fusnesau
  • rydym yn cydnabod ac yn parchu amrywiaeth cymdeithas y DU ac rydym yn bwriadu adlewyrchu hyn drwy gynhyrchu cynnyrch perthnasol, amserol ac ansawdd uchel sy’n cwrdd â chodau ymarfer ystadegol