Trosolwg o’n sefydliad
Ar 1 Ebrill 2008, ac yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, cafodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ei diddymu fel adran o’r Trysorlys ac asiantaeth weithredol, ac yn lle hynny daeth yn 'swyddfa weithredol' Awdurdod Ystadegau’r DU a oedd newydd ei ffurfio.
Er gwaethaf y newid hwn, mae’r SYG yn dal i sefyll ar frig system ystadegol y DU, fel prif sefydliad arolygon Llywodraeth y DU, prif gynhyrchydd ystadegau swyddogol ac 'wyneb' y DU o fewn y System Ystadegol Ewropeaidd (SYE). Cyfarwyddwr y SYG, Karen Dunnell, yw prif weithredwr yr Awdurdod ac mae ei rôl yn cyfateb i rôl ysgrifennydd parhaol adrannol a phrif swyddog cyfrifyddu. Mae Karen hefyd yn gwisgo dwy het arall; fel 'Ystadegydd Gwladol', hi yw prif ymgynghorydd proffesiynol yr Awdurdod a phennaeth Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
Yn unol â darpariaethau eraill yn y Ddeddf Ystadegau, mae ei rôl flaenorol fel cofrestrydd cyffredinol Cymru a Lloegr wedi’i throsglwyddo i’r Swyddfa Gartref.
Mae rheolaeth y SYG yn cael ei gweithredu drwy ddau bwyllgor lefel uchel:
-
Mae Bwrdd yr Awdurdod Ystadegau yn darparu’r lefel uchaf o reolaeth ar gyfer y SYG, gan oruchwylio ei chyfeiriad strategol, darparu arweiniad a sefydlu’r fframwaith polisi cyffredinol y gall y SYG weithredu y tu mewn iddo. Mae’r Bwrdd yn cynnwys cadeirydd yr Awdurdod Ystadegau, ei saith aelod anweithredol, prif weithredwr Awdurdod Ystadegau’r DU a dau o uwch-swyddogion eraill y SYG. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan Awdurdod Ystadegau’r DU
-
Mae Grŵp Rheoli Gweithredol (GRhG) y SYG yn gyfrifol am oruchwylio a chyfarwyddo rheolaeth y swyddfa o ddydd i ddydd. Mae’n cynnwys yr Ystadegydd Gwladol/cyfarwyddwr, y ddau gyfarwyddwr cyffredinol, a’r cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am bob un o brif ffrydiau gwaith y Swyddfa. Mae’n cwrdd yn fisol.
Mae gwaith y ddau gorff lefel uchel hyn yn cael ei gefnogi gan gyfres o bwyllgorau trawsbynciol sy’n cwmpasu meysydd pwnc penodol. Yn achos y SYG, mae gan y pwyllgorau eraill hyn yr awdurdod i wneud penderfyniadau ar ran y GRhG a phob mis mae eu cadeiryddion pwyllgor priodol yn adrodd i’r GRhG ar benderfyniadau a wnaed, materion i’w cyfeirio i fyny at Fwrdd yr Awdurdod Ystadegau a gweithgareddau allweddol, fel y bo’n briodol. Mae pob pwyllgor yn cwrdd yn fisol ac mae ganddynt hyd at dri chyfarwyddwr gweithredol yn aelodau (yn ogystal ag uwch-reolwyr eraill).
Yn Ionawr 2008, cyflwynodd yr Ystadegydd Gwladol ddau newid i strwythur rheoli’r SYG gan benodi dau gyfarwyddwr cyffredinol (CC) o fewn y Swyddfa:
-
Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol dros Gyflenwi Ystadegau, Jil Matheson, yn gyfrifol am sicrhau cywirdeb, ansawdd ac amseroldeb holl allbynnau ystadegol y SYG
-
Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol dros Drawsnewid, Rolande Anderson, yn gyfrifol am sicrhau trawsnewidiad gwirioneddol a pharhaus y SYG gyda ffocws penodol ar sgiliau, systemau gwaith a strwythur sefydliadol
Mae ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y penodiadau hyn yn cynnwys:
-
y Ddeddf Ystadegau newydd. Mae annibyniaeth yn gosod heriau newydd i’r SYG a galwadau ychwanegol ar uwch-reolwyr. Yn benodol, bydd Awdurdod Ystadegau’r DU a’r Ystadegydd Gwladol yn cael cyfle i chwarae rôl fwy sylweddol yn y gwaith o ddatblygu’r holl ystadegau swyddogol, nid dim ond y rheini sydd wedi’u dynodi’n Ystadegau Gwladol
-
y cyfle i gryfhau’r uwch dîm rheoli, yng ngoleuni ymatebion i arolygon staff
-
gweithredu strwythurau newydd ar draws yr Uwch Wasanaeth Sifil (UWS). Mae’r hen raddau yn cael eu dileu’n raddol ac mae’n ofynnol bellach i’r holl adrannau symud tuag at strwythur cyson gyda thair gradd UWS yn unig dan yr ysgrifennydd parhaol:
- cyfarwyddwyr cyffredinol (Band Cyflog 3)
- cyfarwyddwyr – cyn-gyfarwyddwyr gweithredol a grŵp y SYG (Band Cyflog 2)
- dirprwy gyfarwyddwyr - cyn-gyfarwyddwyr is-adrannau’r SYG (Band Cyflog 1)
Cefndir Hanesyddol
Crëwyd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wreiddiol ym 1996 drwy gyfuno’r Swyddfa Ystadegau Canolog (a grëwyd ym 1941) a’r Swyddfa Cyfrifiadau ac Arolygon Poblogaeth (a grëwyd ym 1970). Ar y pryd, roedd cyfrifoldeb gweinidogol am y SYG gan y Trysorlys a osododd y trefniadau rheoli ar gyfer y Swyddfa newydd yn y ddogfen 'Fframwaith y SYG'. Rhoddwyd rolau a chyfrifoldebau ychwanegol i gyfarwyddwr y SYG gyda chyhoeddiad y 'Fframwaith ar gyfer Ystadegau Gwladol' ym Mehefin 2000.