Rôl yr Ystadegydd Gwladol

Mae Karen Dunnell, yr Ystadegydd Gwladol, yn gyfrifol am nifer o swyddogaethau yn ei rôl fel:

  • Prif Ymgynghorydd Ystadegol y Llywodraeth ac Awdurdod Ystadegau’r DU
  • Prif Weithredwr a Phrif Swyddog Cyfrifyddu swyddfa weithredol yr Awdurdod – y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
  • pennaeth proffesiynol Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GYLl)
Telerau penodi

Mae’r Ystadegydd Gwladol wedi’i phenodi gan Ei Mawrhydi’r Frenhines gan weithredu ar gyngor y Prif Weinidog sy’n cael ei gynghori, yn ei dro, gan y Gweinidog dros Ystadegau yn Swyddfa’r Cabinet. Mae’n dal swydd fel gwas sifil dan y fath delerau ac amodau a bennir gan Bennaeth y Gwasanaeth Sifil Cartref.

Swyddogaethau

Mae gan yr Ystadegydd Gwladol y prif swyddogaethau canlynol:

  • gwella ansawdd a pherthnasedd Ystadegau Gwladol, er enghraifft drwy gynhyrchu rhaglen waith lefel uchel ar gyfer system ystadegol y DU, drwy weinyddu gweithdrefnau i geisio barn defnyddwyr a darparwyr data, a thrwy sefydlu strwythur pwyllgorau priodol
  • gwella hyder y cyhoedd yn uniondeb Ystadegau Gwladol, er enghraifft drwy hyrwyddo a gweithredu Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Awdurdod Ystadegau’r DU
  • gweithredu’n effeithlon, er enghraifft drwy leihau’r beichiau a osodir ar y rheini sy’n cyflenwi data ar gyfer Ystadegau Gwladol
  • hyrwyddo cydweithrediad yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn rhyngwladol a chyflawni rhwymedigaethau ystadegol y DU i’r Undeb Ewropeaidd, er enghraifft drwy annog cyfranogiad GYLl mewn pwyllgorau a gweithgareddau rhyngwladol
  • cydlynu gweithgareddau GYLl, er enghraifft drwy gynnal swyddogaethau personél a datblygu staff canolog drwy’r Tîm Ystadegwyr mewn Llywodraeth (TYmLl) sydd wedi’i leoli yn y SYG, a hyrwyddo’r defnydd o ddiffiniadau a dosbarthiadau safonol a methodoleg ar draws GYLl
  • hyrwyddo ystadegau cymaradwy ar draws y DU, er enghraifft drwy weithio’n agos gyda chynhyrchwyr ystadegau yn adrannau eraill y llywodraeth a chyda’r Prif Ystadegwyr yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon
  • adrodd ar berfformiad y swyddogaethau hyn i’r Awdurdod Ystadegau a’r Senedd, er enghraifft drwy gyhoeddi adroddiadau rheolaidd ac ymddangos o flaen Pwyllgorau Seneddol

Fel Ystadegydd Gwladol a Phennaeth GYLl, mae dyletswydd ar Karen i weithio’n agos gyda phob un o’r Penaethiaid Proffesiwn dros Ystadegau penodedig ym mhob gweinyddiaeth, adran ac asiantaeth sy’n rhan o GYLl.