Gwerth ystadegau i gymdeithas
Mae ystadegau y gellir ymddiried ynddynt a dibynnu arnynt yn un o seiliau democratiaeth effeithiol. Mae ystadegau swyddogol hefyd yn floc adeiladu ar gyfer llywodraeth agored a thryloyw, gweinyddiaeth gyhoeddus effeithiol, a gweithrediad effeithlon yr economi a chymdeithas. Maent yn rhoi’r wybodaeth, dadansoddiad a’r cyngor ystadegol sydd eu hangen ar bawb yn y gymuned ehangach i wella’r penderfyniadau a wneir, hysbysu dadl a sbarduno ymchwil.
Mae ystadegau swyddogol yn cael eu defnyddio i:
-
hysbysu seneddau a chynulliadau gwleidyddol ynglŷn â chyflwr y genedl a darparu ffenestr i waith a pherfformiad llywodraethau. Mae hyn yn caniatáu iddynt asesu effaith eu polisïau dros amser a rhwng gwahanol ardaloedd
-
rhoi darlun o’r economi a’r gymdeithas i weinidogion, gan eu galluogi i lunio polisïau economaidd a chymdeithasol a monitro a gwerthuso’r gwaith o’u cyflenwi
-
caniatáu i’r llywodraeth a’i hasiantaethau, ar bob lefel, gynnal eu busnes yn effeithlon ac yn effeithiol a gwneud penderfyniadau gwybodus ar sail tystiolaeth
-
rhoi cipolwg ar gymdeithas a gwaith a pherfformiad y llywodraeth i ddinasyddion. Mae ystadegau’n dangos maint gweithgarwch y llywodraeth ym mhob maes polisi cyhoeddus, gan ganiatáu i effaith polisïau a gweithredoedd y llywodraeth gael ei hasesu
-
darparu gwasanaeth ystadegol i fusnesau sy’n hyrwyddo gweithrediad effeithiol ac effeithlon diwydiant a masnach
-
cynorthwyo dadansoddwyr, ymchwilwyr, ysgolheigion a myfyrwyr gyda’u gwaith a’u hastudiaethau, a
-
diwallu anghenion yr Undeb Ewropeaidd a chyrff rhyngwladol eraill am gymariaethau data rhyngwladol