Cyhoeddiadau
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cynhyrchu casgliad sylweddol o gyhoeddiadau, y mae’r rhan fwyaf ohonynt ar gael yn electronig ar y we a nifer mewn print.
Dyma’r rhai mwyaf hysbys:
-
'Tueddiadau Cymdeithasol', sydd wedi’i gyhoeddi’n flynyddol am dros 30 mlynedd fel casgliad o ddata cymdeithasol ac economaidd gydag esboniadau i helpu i greu portread o Brydain. Wedi’i ddisgrifio fel 'Bywgraffiad Prydain' mae’n cynnwys data ar addysg, cyflogaeth, llygredd, teithio, iechyd a throsedd
-
'Tueddiadau Rhanbarthol', sydd hefyd wedi’i gynhyrchu am dros 30 mlynedd gydag ychydig o doriadau byr. Mae’n gosod data ar lefel ranbarthol, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer ymchwilio i leoliadau a gwneud cymariaethau ar draws y naw rhanbarth o Loegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon
-
'Gwariant Teuluoedd’, golwg flynyddol ar ganfyddiadau’r Arolwg Gwariant a Bwyd sydd wedi’i gynnal am gyfnod maith, gan roi cipolwg ar yr hyn y mae pobl yn gwario’u hincwm arno, o dai i wres, o fwyd i ddillad
-
'Ystadegau Iechyd Chwarterol’, cyfnodolyn sy’n edrych ar y tueddiadau diweddaraf o ran iechyd y boblogaeth ochr yn ochr â’r tablau mwyaf diweddar ar gyfraddau marwolaeth, genedigaeth, canser ac erthyliad
-
'Tueddiadau Poblogaeth', cyfnodolyn chwarterol arall sy’n canolbwyntio ar yr ymchwil fwyaf amserol i amcangyfrifon poblogaeth a demograffeg, gan gynnwys erthyglau ar ymfudo mewnol a rhyngwladol, teuluoedd un rhiant, priodas a chyd-fyw
-
'Tueddiadau Teithio', adroddiad ar-lein blynyddol sydd wedi’i gymryd o’r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol ac sy’n rhoi cipolwg ar deithwyr o, ac i mewn i’r DU, i ble maent yn mynd a faint maent yn ei wario
-
'Tueddiadau Economaidd a’r Farchnad Lafur', cyfnodolyn misol sy’n creu’r darlun ystadegol diweddaraf, cynhwysfawr ac unigryw o economi a marchnad lafur y DU
Mae’r SYG yn cynhyrchu cyfres o gyhoeddiadau eraill sy’n ymddangos mewn lle amlwg ar y wefan. Er enghraifft, y gyfres ffocws cymdeithasol, a’r Amcangyfrifydd Chwyddiant Personol poblogaidd. Yn ogystal, mae crynodebau rheolaidd ar sail pwnc, sy’n helpu i esbonio’r 400 o ddatganiadau newyddion a data y mae’r SYG yn eu gwneud bob blwyddyn.