Arolygon
Rydym am sicrhau bod ein hystadegau’n gywir ac yn adlewyrchu’r boblogaeth gyfan, gan fod y llywodraeth ganolog a lleol yn eu defnyddio i ganolbwyntio adnoddau lle mae eu hangen fwyaf. Er mwyn gwneud hyn mae arnom angen gwybodaeth ddibynadwy oddi wrth y bobl iawn.
Os ydych wedi’ch dewis i gymryd rhan yn un o 200 o arolygon y SYG, dyma’ch cyfle i wneud gwahaniaeth.
Mae ein harolygon yn edrych ar bob agwedd ar fywyd yn y DU – o weithgareddau busnes, cyflogaeth a chyfraddau cyflog i wariant teuluoedd, tai ac addysg. Gallwch ddewis arolygon o’r rhestr sydd yn nhrefn yr wyddor.
Rydym yn dal i weithio ar y tudalennau hyn, felly os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gwblhau eich arolwg, ffoniwch neu anfonwch e-bost at y cyswllt ar eich ffurflen, llythyr neu daflen arolwg.
-
Busnesau bach a baich arolygon
Paragraff ar sut i leihau baich arolygon ar fusnesau bach
-
Cyfrifiad
Y newyddion diweddaraf am Brawf Cyfrifiad 2007 a dolenni i wybodaeth am y Prawf a’r dudalen Newyddion a Datblygiadau Diweddaraf
-
Rheoli Arolygon
Disgrifiad o rôl a chyfrifoldebau’r Uned Rheoli Arolygon