Cyfrifiad
Mae cyfrifiad yn arolwg o’r holl bobl a chartrefi yn y wlad. Mae’n darparu gwybodaeth hanfodol o lefel genedlaethol i gymdogaeth, i’r llywodraeth, busnesau a’r gymuned.
Roedd y cyfrifiad mwyaf diweddar ar 29 Ebrill 2001. Bwriedir cynnal y cyfrifiad nesaf yn 2011.
Cynhaliwyd Prawf Cyfrifiad 2007 ar 13 Mai 2007. Roedd y Prawf yn cynnwys tua 100,000 o gartrefi o fewn pum awdurdod lleol. Daeth y gwaith o brosesu’r holl holiaduron a lenwyd i ben ar 19 Gorffennaf, ac mae’r gwaith o ddadansoddi a gwerthuso’r Prawf bellach wedi dechrau.
Er bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cadw ychydig o ddata sy’n ymwneud â’r cyfrifiadau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, nid hi yw ffynhonnell y data hwn ac nid yw’n gyfrifol am ddatblygu cyfrifiadau yn y gwledydd hyn yn y dyfodol. Cysylltwch â Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yr Alban (SGGA) ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (AYYGI).