Busnesau bach a baich arolygon

Mae unigolion a sefydliadau yn dibynnu ar y llywodraeth i ddarparu gwybodaeth gywir am gyflwr y gymdeithas a’r economi. Er mwyn darparu hyn, mae adrannau’r llywodraeth yn dibynnu ar wybodaeth a gesglir oddi wrth ddinasyddion a busnesau.

Wrth i’r galw am ddata gynyddu, gall fod tuedd i’r baich sy’n disgyn ar ein cyflenwyr gynyddu. Yn eu hymwneud ag adrannau’r llywodraeth, dylai busnesau fod yn gallu disgwyl gwasanaeth o ansawdd nad yw’n achosi pwysau gormodol.

Mae adrannau’r llywodraeth yn cydnabod yr angen i leihau’r baich ar fusnesau. I’r perwyl hwn, sefydlwyd Fforwm Busnesau Bach Ystadegau Gwladol (FfBB YG) yn 2003 ar gais Canghellor y Trysorlys. Mae FfBB YG yn dod â chynrychiolwyr busnesau bach a rheolwyr adrannau’r llywodraeth at ei gilydd.

Mae’r rhan hon yn disgrifio’r ffordd y mae’r adrannau hyn yn delio gyda busnesau a’r gwaith a wneir i leihau 'llwyth ymatebwyr' neu faich arolygon ar fusnesau.


Noder:

Casglwyd y wybodaeth ar y tudalennau hyn yn 2006. Nid yw’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gyfrifol am y wybodaeth a ddarperir gan adrannau eraill y llywodraeth.